Newyddion
Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 281 o 331
£84.6m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau bysiau er mwyn wynebu heriau’r coronafeirws
Bydd teithwyr ar draws Cymru yn elwa ar £84.6m yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau. Bydd y cyllid hwn yn helpu cwmnïau i wynebu heriau’r coronafeirws a chynnal rhagor o wasanaethau.
Ap COVID-19 y GIG yn lansio ledled Cymru a Lloegr
Mae pobl ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawrlwytho ap COVID-19 y GIG i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a gwarchod eu hunain a’u hanwyliaid wrth i nifer yr achosion gynyddu.
Siarter newydd yn rhoi lle canolog i leoedd yn y broses gynllunio
Mae siarter newydd sy’n rhoi lle canolog yn y broses gynllunio i ansawdd, cynaliadwyedd a chymuned wedi cael ei lansio heddiw gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Busnesau lletygarwch yng Nghymru i gau am 10pm i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau am 10pm. Daw hyn wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru i atal argyfwng newydd oherwydd y coronafeirws.
Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd y flwyddyn
Mae Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd 2020, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi.
Gosod cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli brigiadau o achosion yn y De
Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd rheolau'r coronafeirws yn cael eu tynhau mewn pedwar awdurdod lleol arall yng Nghymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd – yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion.
Lansiad yr ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Awtistiaeth
Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw [dydd Llun 21] wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer drafft statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a oedd wedi’i ohirio ers mis Ebrill yn sgil y pandemig coronafeirws.
Nodyn i'r dyddiadur - Cynhadledd i'r Wasg Coronaferiws - Dydd Llun 21 o Fedi 2020
Dyddiad: Dydd Llun 21 o Fedi 2020
Amser: 12:30
Lleoliad: Ystafell Briffio’r Cyfryngau, Llawr cyntaf, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
Dweud eich dweud ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru
Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn lansio trafodaeth genedlaethol heddiw ar gynllun newydd i helpu i sicrhau dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Cogydd enwog yn cefnogi’r ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ mewn cais i arwain ar ailgylchu.
Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ymgyrch newydd i gael pobl yng Nghymru i ailgylchu mwy mewn cais i arwain y byd ar ailgylchu.
£420,000 i sicrhau prydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n hunanwarchod neu’n hunanynysu
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn os ydynt yn hunanwarchod neu’n gorfod hunanynysu, diolch i £420,000 a gadarnhawyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.