Newyddion
Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 284 o 331
Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i “chwarae ei rhan” wrth gefnogi pwyslais y Comisiwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru
Mae cynigion ar gyfer gwasanaethau trên newydd, gorsafoedd a thrafnidiaeth gydgysylltiedig yn ne-ddwyrain Cymru wedi eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i “chwarae ei ran” wrth wneud gwelliannau i reilffyrdd Cymru.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol i warchod swyddi i gwmni o Ogledd Cymru
Mae cannoedd o swyddi gyda Kronospan, y cwmni o’r Waun, wedi eu diogelu gyda cymorth o Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru.
£1.3m i gefnogi pecyn o wasanaethau iechyd meddwl i bawb
Heddiw (8 Medi), mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cymorth iechyd meddwl ychwanegol a fydd ar gael i unrhyw un yng Nghymru pan fydd arnynt ei angen.
Cyhoeddi buddsoddiad newydd o fwy na £100miliwn yn economi wledig Cymru
Bydd cannoedd o brosiectau sy'n rhoi hwb i'r economi wledig, gwella bioamrywiaeth a gwella gwytnwch y sector bwyd ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad ariannol o £106m am y tair blynedd nesaf.
Cyfyngiadau lleol i reoli’r Coronafeirws yn Sir Caerffili
Caiff y rheolau coronafeirws eu tynhau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i atal lledaeniad y coronafeirws yn lleol, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heno.
£2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ac addysg bellach
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach.
Llywodraeth Cymru yn diolch i elusennau a gwirfoddolwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Elusennau
Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Elusennau, diolchodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, i elusennau a gwirfoddolwyr ledled Cymru am wneud bywyd yn well i’w cymunedau drwy gydol pandemig Covid-19.
Creu 37 lle meddygol ychwanegol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu hyd at 37 o leoedd ychwanegol ar gyfer myfyrwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Mesurau diogelwch yn y gweithle yn hollbwysig i atal lledaeniad y coronafeirws
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi galw ar gyflogwyr a gweithwyr i wneud popeth bosibl i atal lledaeniad y coronafeirws yn y gweithle.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi help hanfodol i fusnes technoleg byd-eang yng Nghonwy
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates wedi cyhoeddi bod Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help hanfodol i fusnes technoleg rhyngwladol o sir Conwy.
Ydych chi’n gymwys i gael cymorth o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol?
O ddydd Mawrth 1 Medi ymlaen, bydd sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gallu gweld a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n werth cyfanswm o £53 miliwn.
Y Gweinidog Cyllid yn cyhoeddi £2.8m ychwanegol i gefnogi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Bydd cynghorau lleol ledled Cymru yn cael £2.8m ychwanegol i’w helpu i ariannu’r cynnydd yn y galw ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig.