Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 282 o 317
Bron i £10m ar gyfer helpu i wella ansawdd dŵr yng Nghymru
Caiff bron i £10m o gyllid cyfalaf ei ddefnyddio yn 2020-21 er mwyn gwella ansawdd dŵr ar draws Cymru a hefyd er mwyn mynd i’r afael â llygredd dŵr o fwyngloddiau metel segur.
Embargo: 00.01 ddydd Iau 2 Gorffennaf 2020
Bydd y sector lletygarwch yn dechrau ailagor yn yr awyr agored yng Nghymru o 13 Gorffennaf os bydd nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i leihau.
Dull Tîm Cymru o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Llywodraeth Cymru yn croesawu dull ‘tîm Cymru’ o weithredu ar draws y sector cyhoeddus er mwyn gwireddu yr uchelgais o fod yn economi carbon isel ac i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Cyllid i ddarparu llinell gymorth cyfrwng Cymraeg i rieni
Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i elusen sy’n cynnig cyngor ar bob agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol er mwyn ymestyn gwasanaeth y llinell gymorth i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn digwydd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu rhieni i gadw’n ddiogel a chadw’n bositif yn ystod pandemig COVID-19.
Chwilio am #ArwyrCarbonIsel Cymru wrth i’r genedl edrych tuag at adferiad wedi pandemig Covid-19
Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a chydlynu’r gweithredu drwy ei Gynllun Carbon Isel er mwyn helpu meysydd eraill yn yr economi i gymryd camau pendant i symud oddi wrth danwyddau ffosil.
Practisau deintyddiaeth ac optometreg i weld mwy o gleifion yn ystod cam nesaf yr adferiad o’r pandemig
O dipyn i beth, bydd practisau deintyddiaeth ac optometreg ledled Cymru yn ailddechrau cynnig mwy o’u gwasanaethau fel rhan o adferiad fesul cam y gwasanaethau iechyd ar ôl argyfwng y coronafeirws.
Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf.
£1.5 m bydd cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru yn helpu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig i Fyw Heb Ofn
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, y bydd gwasanaethau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yng Nghymru yn cael £1.5 m ychwanegol mewn refeniw i'w helpu i ymateb i alwadau cynyddol ar wasanaethau o ganlyniad i Covid-19.
Creu Catrefi Estynedig fel bod teuluoedd yn cael dod at ei gilydd eto
Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi heddiw [dydd Llun Mehefin 29] y bydd pobl o ddau gartref ar wahân yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig.
Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn annog siopwyr i ddangos eu cariad at ddiwydiant bwyd a diod Cymru
Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas.
Cyhoeddi Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw [dydd Gwener 26] mai Charles Janczewski fydd cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.