Newyddion
Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 285 o 331
Mwy o gymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol
Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Annog Cymry sy’n dychwelyd o’u gwyliau i gadw at reolau cwarantin i atal lledaeniad COVID-19
Atgoffir pobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau i ddilyn rheolau cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru o dramor er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.
Hwb o £500,000 ar gyfer technoleg i gynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol
Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 i Gyngor Caerdydd i wella’r seilwaith sy’n cludo band eang ffibr optig o amgylch y ddinas, yn ôl cyhoeddiad gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth.
Teuluoedd yng Nghymru yn cael eu hannog i ystyried opsiynau cludiant ‘yn ôl i’r ysgol
Gyda’r tymor ysgol newydd ar fin dechrau, mae teuluoedd ledled Cymru yn cael eu hannog i ystyried y gwahanol opsiynau cludiant sydd ar gael ar gyfer disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol o’r wythnos nesaf.
Cyflwyno dirwyon llymach i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhagor o bwerau i'r heddlu i atal digwyddiadau cerddorol heb drwydded rhag cael eu cynnal yng Nghymru, fel rhan o'r ymdrechion i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Cyhoeddwyd hynny heddiw gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Ymweliadau dan do â chartrefi gofal i ailddechrau yfory
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau yfory [dydd Gwener 28 Awst], ddiwrnod yn gynt na’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Ysbyty’r Faenor i agor bedwar mis yn gynnar
Heddiw [dydd Iau 27 Awst], mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ysbyty newydd sbon ar gyfer Cymru yn agor bedwar mis yn gynt na’r disgwyl.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i brif gyflenwr offer pobi y DU
Mae Cronfa Cadernid Economaidd bwrpasol Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth hanfodol i brif weithgynhyrchydd a chyflenwr offer pobi proffesiynol, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Ymestyn y tymor gwyliau i hybu busnesau twristiaeth.
Mae canfyddiadau Baromedr COVID-19 Busnesau Twristaieth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos, er bod Cymru wedi cael ychydig o wythnosau prysur iawn yn croesawu gwesteion, mae angen cyfnod estynedig o wyliau gartref drwy’r hydref i hybu busnes.
Cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau i’r A483 yn Wrecsam
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn annog pobl i edrych ar yr opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau ar hyd yr A483 yn Wrecsam ac i fynegi’u barn am y cynigion pwysig hyn.
Cadarnhau £1.1 miliwn yn rhagor o gyllid brys i atgyweirio asedau atal llifogydd yn Rhondda Cynon Taf
Bydd cymunedau yn Rhondda Cynon Taf – a welodd rai o’r llifogydd gwaethaf pan drawyd Cymru gan stormydd Ciara a Dennis yn gynharach eleni – yn elwa ar £1.1 miliwn yn rhagor o gyllid brys ar gyfer y gwaith atgyweirio y mae angen ei wneud ar unwaith ar asedau lliniaru llifogydd a gafodd eu difrodi.
Gall Busnes Cymru helpu meddai Gweinidog yr Economi
Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi galw ar fusnesau ledled Cymru i fantesio ar y cyngor a’r canllawiau sy’n cael eu darparu gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wrth ddelio gydag effaith economaidd y coronafeirws.