Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 289 o 317
Llywodraeth Cymru yn ymestyn y profi i bob cartref gofal
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn 16eg Mai) y bydd profi am y Coronafeirws yn cael ei ymestyn i gynnwys preswylwyr a staff cartrefi gofal os oes amheuaeth o achos o’r Coronafeirws yno – daw’r cam hwn yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.
Ailagor Canolfannau Ailgylchu yng Nghymru
Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Canolfannau Ailgylchu yn ailagor yng Nghymru.
Ni fydd Cronfa Cadernid Economaidd Cymru yn cefnogi pobl sy’n ceisio osgoi treth
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd modd i fusnesau y mae eu pencadlysoedd wedi’u lleoli mewn ‘hafanau treth’ fanteisio ar gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt.
Y Gweinidog Addysg yn datgan ‘y ffordd o feddwl’ am ddychwelyd i ysgolion
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy’n datgan sut mae’n ystyried y cam nesaf i ysgolion, fel ymateb i COVID-19.
Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: cyhoeddi map ffordd Cymru
- Ar ôl bron i wyth wythnos o gyfyngiadau symud, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei chynigion ar gyfer y camau nesaf;
- System goleuadau traffig Coch, Oren a Gwyrdd i gael ei defnyddio i lacio’r cyfyngiadau;
- Bydd dod allan o’r cyfyngiadau yn cael ei arwain gan wyddoniaeth.
Cefnogaeth i Leoliadau Lleol Cerddoriaeth yng Nghymru
Mae cyllid sydd wedi’i gyhoeddi gan Cymru Greadigol ar gyfer lleoliadau lleol ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru, fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru o £18 miliwn i gefnogi’r sector diwylliant wedi ei ddyrannu’n llawn bellach.
Gweinidogion yn galw ar gymdogion a chymunedau i gadw eu llygaid a'u clustiau ar agor am blant ac oedolion sy'n cael eu cam-drin
Mae'r cyfyngiadau symud yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'r rheini sy'n dioddef camdriniaeth, yn oedolion a phlant. Gall ynysu ganiatáu i gamdrinwyr gael mwy o bŵer dros ddioddefwyr, boed drwy drais, esgeulustod neu gamdriniaeth emosiynol.
Mae adrannau argyfwng Cymru ar agor ac ar gael i’r rhai sydd eu hangen ar frys
Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog i gadw’n ddiogel ac yn iach a chofio bod staff yr adran argyfwng ar gael os ydynt angen cymorth ar frys.
Pam nad yw teithio i Gymru yn opsiwn – nodyn pwysig i’ch atgoffa
Mae’r rheoliadau aros gartref yn parhau’n gadarn yn eu lle i ddiogelu iechyd pobl – mae hyn yn golygu bod teithio i Gymru at ddibenion hamdden yn amhosibl o hyd.
Cynlluniau i gynhyrchu un filiwn yn fwy o fasgiau’r dydd yng Nghaerdydd
Mae Cymru mewn sefyllfa gryfach o lawer i ddarparu cyfarpar diogelu personol hanfodol oherwydd y cysylltiadau sydd gennym dramor ac oherwydd ein bod yn gallu gwneud pethau yma yng Nghymru, yn ôl Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.
‘Coronafeirws a fi’ – Holi pobl ifanc Cymru am eu meddyliau a’u pryderon yn ystod y pandemig
Cafodd arolwg ar-lein sy’n gofyn i blant a phobl ifanc Cymru am eu sylwadau a’u barn yn ystod pandemig y coronafeirws ei lansio heddiw [Dydd Mercher, 13 Mai].
Datganiad gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru - Coronafeirws: Gorchuddion Wyneb
Mae llawer o drafodaeth wedi bod ynglŷn â rôl gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer y cyhoedd i atal lledaeniad COVID-19.