Newyddion

Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 293 o 317

Welsh Government

Addasu adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion gwahanol i gefnogi’r ymateb i’r Coronafeirws

Mae adeiladau Llywodraeth Cymru ledled Cymru yn cael eu defnyddio gan y GIG i ddarparu gofal achub bywyd ac i gefnogi’r ymateb cenedlaethol i bandemig y Coronafeirws.

Welsh Government

£3m o gyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u 'hallgáu o'r byd digidol'

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi hyd at £3 miliwn i gefnogi dygwyr sydd wedi'u 'hallgáu'n ddigidol' yn ystod pandemig y coronafeirws.

Welsh Government

Canolfannau profi newydd ac archebu ar-lein i'w cyflwyno yng Nghymru yr wythnos hon

Bydd dwy ganolfan brofi newydd i brofi trwy ffenest y car a gwasanaeth archebu ar-lein yn dechrau gweithredu yng Nghymru yr wythnos hon.

Red Dragon Flagmakers scrubs pic-2

Tri busnes gweithgynhyrchu arall yn dechrau gwneud sgrybs ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru

Mae tri busnes gweithgynhyrchu bach yng Nghymru yn ymuno â’r frwydr yn erbyn COVID-19, drwy wneud sgrybs ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru, mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters wedi cyhoeddi.

8-54

£10m i helpu cleifion sydd wedi gwella o’r Coronafeirws yn eu cartrefi

Mae cyllid gwerth £10m yn cael ei ddarparu i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sydd wedi gwella o Covid-19 i ddychwelyd i'w cartrefi ynghynt.

2-188

Hedfan cyfarpar diogelu personol hanfodol i Faes Awyr Caerdydd o’r Dwyrain Canol

Bydd cyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yng Nghymru’n cael eu hedfan i mewn heddiw (dydd Mawrth Ebrill 28) i Faes Awyr Caerdydd.        

Welsh Government

Gwerth dros £500 miliwn o gymorth yn cyrraedd busnesau yng Nghymru

Mae hanner biliwn o bunnoedd o grantiau wedi cyrraedd 41,000 o fusnesau bach yng Nghymru mewn cyfnod o ychydig o wythnosau.

Welsh Government

Y Gweinidog Addysg yn nodi pum egwyddor allweddol ar gyfer ailgychwyn ysgolion

Heddiw, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn nodi ei phum egwyddor allweddol a fydd yn pennu sut y bydd addysg yn cael ei chyflwyno'n raddol mewn ysgolion yng Nghymru.

8-54

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi taliadau marwolaeth mewn swydd i weithwyr iechyd a gofal ar y rheng flaen

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau heddiw (27 o Ebrill 2020) y bydd cymorth ariannol o £60,000 yn cael ei ddarparu i fuddiolwyr cymwys staff rheng-flaen sy'n gweithio yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol, os byddant yn marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.

Welsh Government

Cymorth ar gael i helpu pobl i dalu’r dreth gyngor

Os yw’r biliau’n pentyrru a’ch bod yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, gallai cymorth fod ar gael i chi.

Swansea University ambulance team-2

Prifysgol Abertawe yn helpu i ymladd yn erbyn y coronafeirws drwy gael ambiwlansys yn ôl ar yr heol yn gyflym

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ennill cyllid i leihau’r cyfnod o amser sydd ei angen i ddiheintio ambiwlansys ar ôl iddynt gludo claf yr amheuir ei fod yn dioddef o covid-19.

Vaughan Gething

Gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru’n derbyn hwb o £72k

Mae gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru wedi derbyn cyllid ychwanegol o £72,000 gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i ymateb i bandemig y coronafeirws