Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 295 o 317
Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ailwladoli Dinasyddion Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth parhaus i gefnogi y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ei hymdrechion i ailwladoli Gwladolion Prydeinig, gan gynnwys y rhai hynny o Gymru, sydd yn gorfod aros dramor ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud byd-eang oherwydd Covid-19.
Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cefnogaeth fusnes ychwanegol o £100M wrth i’r Gronfa Cadernid Economaidd dderbyn nifer digynsail o geisiadau
Mae cam diweddaraf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi elwa o ryddhau £100 miliwn yn rhagor gan weinidogion o fewn 72 awr i lansio, oherwydd galw aruthrol.
Hyfforddiant ar-lein ar gyfer y gweithlu ar ffyrlo yn ystod pandemig y coronafeirws
Mae adnoddau e-ddysgu i helpu gweithwyr ar ffyrlo o ganlyniad i’r coronafeirws i ddysgu sgiliau newydd yn fyw yn awr, cyhoeddodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Cyfarwyddyd newydd i helpu Cymru i gadw’n ddiogel a dal ati i ddysgu wrth ddelio gydag effaith y coronafeirws
Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Ebrill 20) ddatganiad polisi o’r enw Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu sy’n ceisio cefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws.
Technoleg a chefnogaeth filwrol yn rhan o’r cynlluniau i gynyddu profion ar weithwyr hanfodol yng Nghymru
Mae cynlluniau newydd i brofi mwy o weithwyr hanfodol am y coronafeirws fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw (dydd Sul 19 Ebrill).
Rhybudd am danau glaswellt yn dilyn y defnydd o lusernau awyr i ddangos cefnogaeth i’r GIG.
Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi rhybuddio pobl rhag defnyddio llusernau awyr i ddangos eu cefnogaeth i’r GIG yn ystod COVID-19.
Gweinidog yn cyhoeddi hyd at £6.3m i hosbisau yng Nghymru yn ystod Covid-19
Heddiw (dydd Sul, 19 Ebrill) mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi pecyn cymorth tai- mis, werth hyd at £6.3m ar gyfer hosbisau yng Nghymru.
Dysgu Cymraeg yn profi’n boblogaidd yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae dysgu Cymraeg yn un o’r pethau mae pobl yn ei wneud i ddiddanu a gwella eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud, awgryma ffigurau newydd.
5 ffordd mae Cymru’n arwain y ffordd yn darparu addysg yn ddigidol
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hystyried fel arweinydd byd mewn darparu gwasanaethau digidol ar gyfer addysg. Dyma rai o’r rhesymau pam.
Diweddariad ar waith parhaus i gefnogi addysg uwch wrth wynebu heriau ariannol COVID-19
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n mynd rhagddo i helpu’r sector addysg uwch gyda’r heriau ariannol sy’n codi yn sgil COVID-19.
Llywodraeth Cymru'n rhoi hwb i elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru sy’n hanfodol i’n hymateb i argyfwng Covid-19, gyda chyllid i helpu i fodloni eu hanghenion.
Distyllfa Penderyn yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn coronafeirws
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi diolch i’r cwmni wisgi a gwirodydd eiconig o Gymru, Penderyn, am arallgyfeirio ei ddistyllwyr arbenigol i gynhyrchu’r hylif saniteiddio dwylo sydd ei angen yn fawr iawn ar y GIG yng Nghymru.