Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 299 o 317
Y bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i gartrefi pobl sy’n gwarchod eu hunain rhag coronafeirws
Mae’r bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i garreg drws pobl sy’n mabwysiadu mesurau gwarchod llym i’w hamddiffyn eu hunain rhag coronafeirws.
AMRC Cymru i fod yn rhan o’r Her Peiriannau Anadlu
Mae AMRC Cymru ymhlith nifer o safleoedd allweddol a fydd yn cynnal y gwaith o wneud peiriannau anadlu yn gyflym, fel rhan o gonsortiwm o fusnesau sydd wedi dod at ei gilydd o dan Her Peiriannau Anadlu’r DU.
Y Gweinidog Iechyd yn ymateb i ganllawiau newydd ar gyfarpar diogelu personol
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi ymateb i’r canllawiau newydd ynglŷn â chyfarpar diogelu personol sydd wedi’u cyhoeddi heddiw ar gyfer y DU gyfan.
Llywodraeth Cymru yn canmol y gwasanaeth tân yn ystod yr achosion o’r coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi canmol Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru am eu hymateb i bandemig y coronafeirws yn ogystal â’r lefel uchel o arbenigedd sydd yn y gwasanaeth ar gyfer cynllunio a rheoli argyfyngau.
Ehangu apwyntiadau gyda meddygon dros y we ledled Cymru
Y Gweinidog Iechyd yn dweud bod galwadau fideo i feddygon teulu yn allweddol i barhau â gwasanaethau gofal iechyd wrth frwydro yn erbyn COVID-19
Pecyn £18 miliwn o gymorth ar gyfer y sector diwylliant, creadigol a chwaraeon yng Nghymru.
Mae dros £18 miliwn ar gael i gefnogi sectorau y diwydiannau creadigol, diwylliant a chwaraeon sy’n teimlo effaith COVID-19 ar hyn o bryd.
Mesurau brys yn cael eu cyhoeddi i gefnogi ffermwyr yn ystod yr argyfwng COVID-19
Mae cyfres o fesurau brys i gefnogi ffermwyr Cymru yn ystod yr argyfwng COVID-19 wedi cael eu cyhoeddi heddiw [1 Ebrill] gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Mae’r mesurau’n cydnabod y rôl hanfodol mae ffermwyr yn ei chwarae wrth fwydo’r genedl.
Help i’r rheini sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig
Mae gwasanaethau arbenigol yn barod i helpu pawb sydd mewn perygl o ddioddef trais neu gamdriniaeth ddomestig oherwydd y rheolau newydd ar aros gartref i ymladd yn erbyn y coronafeirws.
Cymeradwyo erthyliadau gartref yng Nghymru yn ystod yr argyfwng Coronafeirws
Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd menywod yng Nghymru yn gallu cael mynediad i wasanaethau erthylu gartref yn ystod argyfwng y Coronafeirws.
Croesawu cannoedd yn ôl i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd cannoedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn dychwelyd yn fuan i’w gyrfaoedd blaenorol i helpu i ddelio â COVID-19.
Awdurdodau Lleol yn derbyn pwerau brys i gefnogi’r GIG gydag ysbytai dros dro
Mae pwerau newydd wedi’u rhoi i awdurdodau lleol i gefnogi’r GIG a chynyddu capasiti ysbytai wrth i Gymru ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500m wedi’i lansio ar gyfer Cymru
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500m heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.