Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 298 o 317
Gweinidog yr Economi yn cymeradwyo busnesau sy’n helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws
Mae busnesau a phrifysgolion ledled Cymru yn ymateb i alwad i weithredu ledled y wlad i helpu’r GIG ddarparu gofal cymdeithasol ac offer hollbwysig i gefnogi staff.
Cynllun benthyciad gwerth £100 miliwn Banc Datblygu Cymru wedi’i ddefnyddio’n llawn yn ystod yr wythnos gyntaf
Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru Covid-19 wedi’i ddefnyddio’n llawn ar ôl derbyn mwy na 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos.
£150 miliwn o gymorth grant yn cyrraedd busnesau gyda mwy i ddod
Mae busnesau wedi derbyn bron i £150 miliwn mewn cymorth grant yn wythnos gyntaf y cynllun cymorth busnes.
Gweithwyr hanfodol i gael gofal plant am ddim
Bydd rhieni sy’n gwneud swyddi hanfodol fel rhan o ymateb Cymru i’r coronafeirws yn cael gofal plant am ddim yn ystod y pandemig.
GIG Cymru yn cynyddu ei gapasiti i ymdopi â choronafeirws yn gyflym iawn
Mae hyd at 7,000 o welyau ysbyty ychwanegol yn cael eu creu gan GIG Cymru wrth iddo baratoi ar gyfer cynnydd mewn achosion o goronafeirws, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw.
Llywodraeth Cymru yn cefnogi goroeswyr cam-drin domestig yn ystod y coronafeirws
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru heddiw gyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi goroeswyr trais a cham-drin domestig yn ystod pandemig y coronafeirws.
Bydd rheol dwy fetr yn gwarchod gweithwyr yng Nghymru rhag coronafeirws
Bydd rheolau newydd i warchod gweithwyr yn ystod yr achosion o goronafeirws yn dod i rym fore dydd Mawrth, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Y Dirprwy Weinidog yn apelio ar i bobl fod yn gyfrifol wrth ymarfer corff
Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn atgoffa pobl i chwarae eu rhan i ddiogelu ei gilydd a’r GIG drwy fod yn gyfrifol wrth wneud eu hymarfer corff dros y penwythnos.
Y Prif Weinidog yn galw ar fusnesau i weithredu: Helpwch ni i ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i Staff y GIG
Mae Mark Drakeford y Prif Weinidog wedi galw ar fusnesau yng Nghymru i greu cyflenwad newydd o Gymru o gyfarpar diogelu personol (PPE) i gefnogi staff y GIG a staff gofal cymdeithasol.
Bydd cyllid ychwanegol yn helpu i gefnogi ymdrechion adfer wrth i gymunedau wynebu dwy her, adfer yn sgil llifogydd a’r pandemig parhaus.
Bydd awdurdodau ar draws Cymru yn cael cyfanswm o £2.8 miliwn i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd a ddifrodwyd yn ystod y stormydd diweddar, a hwb ariannol i’w helpu i greu mwy o gynlluniau amddiffyn eleni.
Llywodraeth Cymru yn camu i’r adwy gyda chefnogaeth ariannol tymor byr i Faes Awyr Caerdydd ac yn galw am newid yn null o weithredu San Steffan
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol i gynorthwyo Maes Awyr Caerdydd fel y gall wynebu effeithiau cynnar pandemig y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i newid ar frys ei pholisi o ran cynnig rhagor o gymorth ariannol i feysydd awyr rhanbarthol.