Newyddion
Canfuwyd 3802 eitem, yn dangos tudalen 297 o 317
Cyhoeddi Grant Pysgodfeydd yng Nghymru i helpu’r sector pysgota drwy bandemig Covid-19
Heddiw, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi grant newydd i gefnogi busnesau pysgota yn ystod y pandemig COVID-19 parhaus.
Lesley Griffiths yn dod â chynrychiolwyr diwydiannau allweddol at ei gilydd i drafod heriau COVID-19 i’n sectorau ffermio, pysgota a bwyd
Heddiw bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dod â chynrychiolwyr diwydiant o’r sectorau ffermio, pysgota, coedwigaeth, yr amgylchedd a bwyd a diod yng Nghymru at ei gilydd, i drafod yr heriau maent yn eu hwynebu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.
£40m ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru
Heddiw (14 Ebrill) mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cyhoeddi £40m ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws.
Cymru’n chwarae rhan arweiniol mewn triniaeth ‘trallwyso gwrthgyrff’ ar gyfer cleifion coronafeirws
Mae Cymru yn chwarae rhan arweiniol yn rhaglen y DU ar gyfer trin cleifion coronafeirws gan ddefnyddio rhoddion gwaed gan bobl sydd wedi gwella o COVID19 - ‘plasma ymadfer’.
Ehangu Gwasanaeth Ymgynghori Fideo yn gyflym ar gyfer Gofal Eilaidd a Chymunedol
Ar ôl cyflwyno apwyntiadau digidol ar gyfer meddygfeydd ledled Cymru, mae £2.8m pellach wedi’i fuddsoddi i ymestyn y cynllun i feysydd gofal eilaidd a gofal cymunedol drwyddynt draw.
Lansio ap newydd i dracio ac olrhain y coronafeirws
Y Prif Weinidog a GIG Cymru yn galw ar y cyhoedd i lawrlwytho ap a chofnodi symptomau
Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd newydd
Cyhoeddwyd rhagor o fanylion heddiw ynglŷn â Chronfa Cadernid Economaidd newydd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn.
Arhoswch Gartref, Byddwch yn Ddiogel – Gweinidog Gogledd Cymru
Wrth inni ddod yn nes at benwythnos y Pasg, mae’r neges gan Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru yn glir – arhoswch gartref a byddwch yn ddiogel.
Rhaid i westai, lletyau gwely a brecwast a chartrefi gwyliau aros ar gau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Cymru 2020.
Prif Weinidog Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus yn galw ar bobl Cymru i aros gartref y achub bywydau y Pasg hwn
Mae llythyr digynsail oddi wrth Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi’i gyd-lofnodi gan y gwasanaethau argyfwng ac iechyd ac arweinwyr cynghorau Cymru, yn galw ar bawb yn y wlad i aros gartref dros benwythnos y Pasg er mwyn achub bywydau.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething a’r Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal ag elusennau a mudiadau gwirfoddol wedi llofnodi’r llythyr er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.
Cwmni plastigion o Gymru sy’n gweithio gyda brandiau byd-eang bellach yn gwneud peiriannau anadlu a phecynnau profi am COVID-19
Mae cwmni o Gymru sy’n rhoi’r lliw mewn plastigion ar gyfer rhai o frandiau mwyaf y byd wedi arallgyfeirio i wneud darnau peiriannau anadlu ac anadlyddion ar gyfer y GIG, a phecynnau profi am y coronafeirws.