Newyddion
Canfuwyd 3620 eitem, yn dangos tudalen 290 o 302
Y Gweinidogion Cyllid yn galw am ymgysylltu o ddifrif wrth reoli Cyllideb y Deyrnas Unedig
Heddiw, yn Llundain, cyfarfu Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf â Steve Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys newydd. Ddiwrnod yn unig cyn i Gyllideb y DU gael ei chyhoeddi, y newid yng nghyllidebau’r gweinyddiaethau datganoledig, a maint y newid hwnnw, oedd ar frig yr agenda.
Galw ar Lywodraeth i drafod â’r gweinyddiaethau datganoledig cyn negodi â’r UE
Mae Llywodraethau Datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi galwad y cyd ar Lywodraeth y DU i drafod gyda nhw cyn y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd.
Cyhoeddi cynllun newydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau
Mae creu Cymru sy’n fwy cyfartal yn sail i’n holl waith” dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw (Mawrth 10) wrth iddi gyhoeddi cynlluniau newydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Ddaeth pobl ifanc brwdfrydig dros warchod yr amgylchedd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd yr hinsawdd ddoe
Ddaeth pobl ifanc at ei gilydd ddoe i wneud adduned i ymuno â Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Rheolau arbed ynni ar gyfer pob cartref rhentu preifat yng Nghymru
Bydd rhaid i landlordiaid Cymru sicrhau bod eu heiddo rhentu preifat yn bodloni safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol o 1 Ebrill 2020 ymlaen - ond mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i helpu landlordiaid i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.
Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau i greu Cymru ddiwastraff
Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar ei chynlluniau i wneud Cymru y brif wlad ailgylchu yn y byd, a'n helpu ni i ddod yn economi gylchol, mewn cyfres o sesiynau ymgynghori ar 'Fwy nag Ailgylchu'
Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ryddhau ar gyfer meddygon teulu
Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd meddygfeydd teulu ledled Cymru yn cael pecynnau o fygydau wyneb, menyg a ffedogau i'w hamddiffyn wrth iddynt drin pobl yr amheuir bod ganddynt Coronafeirws.
Rhaid cael system fudo sy'n gweithio i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â GIG Cymru, sefydliadau busnes, llywodraeth leol, prifysgolion, y sector gwirfoddol a'r Undebau Llafur i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system fudo sy'n gweithio i Gymru.
Bil yn ymateb i geisiadau Gweinidogion Cymru am bwerau brys newydd i fynd i'r afael â Coronafeirws (COVID-19)
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi croesawu cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r pwerau brys mae Cymru wedi gofyn amdanynt i fynd i'r afael â Coronafirus (COVID-19).
Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau dau achos newydd o Goronafeirws (COVID-19)
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod dau glaf pellach yng Nghymru wedi profi'n bositif am Goronafeirws (COVID -19).
Rhaid i Gyllideb y DU fynd i’r afael o’r diwedd â’r addewidion sydd wedi’u torri
Mae Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i gymryd camau pendant i roi terfyn ar galedi a darparu buddsoddiad cynaliadwy, hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, wrth iddi baratoi ar gyfer Cyllideb hir-ddisgwyliedig y DU.
Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod bob dydd yng Nghymru
Mae 100 mlynedd wedi pasio ers Diwrnod Rhyngwladol cyntaf y Menywod. Ers hynny mae wedi tyfu'n ddigwyddiad gwirioneddol fyd-eang - diwrnod sy'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan ferched a menywod ledled y byd.