Newyddion
Canfuwyd 3323 eitem, yn dangos tudalen 226 o 277

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd – Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam – yn dilyn cynnydd mewn achosion

Cannoedd o fusnesau yn Abertawe yn gwneud cais am gyllid adfer
Mae dros 200 o fusnesau yn Abertawe wedi gwneud cais i gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, cronfa gwerth £5.3 miliwn i helpu masnachwyr i ymateb i’r pandemig.

Meysydd chwarae i blant i fod yn ddi-fwg am y tro cyntaf yn y DU
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd heddiw [dydd Mawrth 29] y daw cyfyngiadau di-fwg newydd ar gyfer tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant i rym o 1 Mawrth 2021.

"Mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn fusnes i bawb", meddai cynghorwyr cenedlaethol VAWDASV Llywodraeth Cymru
Heddiw, cyhoeddodd Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – y cyfeirir atynt fel VAWDASV – eu hadroddiad blynyddol, gan roi sylwadau ar yr amcanion a osodwyd y llynedd ac a gyflawnwyd yn ystod 2019-20, a nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

£140m i helpu busnesau Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140m o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Cymru yn lansio cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol o effaith Covid-19
Bydd gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7m sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y Covid-19.

Busnesau Cymru yn gobeithio gwneud rhywfaint o arian yn ystod rhith-ymweliad â marchnad allforio
Bydd ugain o fusnesau Cymru yn arddangos eu cynnyrch i gwmnïau o un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd mewn rhith-ymweliad â marchnad allforio Doha, Qatar.

Rhagor o gyfyngiadau lleol i reoli’r cynnydd yn y coronafeirws yn y De
Mae Llywodraeth Cymru yn tynhau’r cyfreithiau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen fel ymateb i’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Galw am 'Ddiogelu'r GIG' yng Nghymru wrth i'r gaeaf ddynesu
- Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn annog y cyhoedd i helpu i 'Ddiogelu'r GIG' a chadw gwasanaethau yn rhydd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion ar gyfer ysgol feddygol yn y Gogledd
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi sefydlu grŵp i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu ysgol feddygol yn y Gogledd.

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli brigiadau o achosion yn y De
Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd rheolau'r coronafeirws yn cael eu tynhau ar draws y De y penwythnos hwn, gan gynnwys yn y brifddinas, mewn ymateb i gynnydd yn lledaeniad y feirws.

Gwaith Cryfhau Pont Cyfnewidfa Talardy Cyffordd 27 yr A55
Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol i gryfhau’r pontydd wrth gyffordd 27 yr A55 bellach wedi dechrau.