Newyddion
Canfuwyd 3695 eitem, yn dangos tudalen 227 o 308
Lansio ymgynghoriad ar Fil newydd i wella arferion gwaith a chreu Cymru deg
Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi lansio ymgynghoriad 8 wythnos o hyd sy’n gofyn i bobl am eu barn am fil newydd i wella arferion gwaith teg a gwasanaethau cyhoeddus, lleihau anghydraddoldebau ac i greu’r amodau economaidd cywir ar gyfer economi a gweithlu mwy llewyrchus.
‘Ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd’ – Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi’r bobl ysbrydoledig sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant.
Cynllun newydd i ddiogelu gweithgynhyrchu yng Nghymru at y dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun gweithredu newydd i helpu i ddiogelu dyfodol tymor hir y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio rhoddion plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth
Yn unol â chytundeb rhwng y pedair gwlad, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw (dydd Iau 25 Chwefror) wedi cyhoeddi y bydd y gwaharddiad ar ddefnyddio plasma o’r DU i wneud meddyginiaeth yn cael ei godi.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dyblu’r cyllid i gefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru â phecyn £10m
Heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y caiff mwy na £10m ei ddarparu i ymestyn un o raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru.
Hwb i’r rhaglenni brechu a phrofi er mwyn helpu i ailagor Cymru yn ddiogel
Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau’n cael eu rhoi’n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel.
Llywodraeth Cymru’n penodi asesydd diogelu’r amgylchedd
Mae cyfreithiwr amgylcheddol a gwledig profiadol iawn wedi cael ei phenodi’n asesydd interim diogelu’r amgylchedd Cymru.
Diwygio cyllid llywodraeth leol – Cymru yn cymryd camau breision
Mae angen cefnogi a grymuso llywodraeth leol ledled Cymru fel y gall ein cynghorau lleol a’n heddluoedd barhau i ddarparu gwasanaethau lleol a chenedlaethol i’w cymunedau. Dyna neges y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, wrth i grynodeb o ganfyddiadau ynglŷn â diwygio cyllid llywodraeth leol yng Nghymru gael ei gyhoeddi heddiw.
Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £6m mewn cwmni cynhyrchu papur blaenllaw ym Maesteg
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £6m i WEPA UK i gefnogi’i gynlluniau ehangu. Bydd hyn yn arwain at greu 54 o swyddi a diogelu cannoedd ar ei safle ym Maesteg.
“Edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus ar gyfer y Gogledd” – Ken Skates
Gall y Gogledd edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.
Amlinellu gweledigaeth ugain mlynedd ar gyfer datblygu yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi lansio Cymru’r Dyfodol, sy’n nodi ble dylid datblygu tai, cyflogaeth a seilwaith i gefnogi ein trefi a’n dinasoedd, datgarboneiddio a sicrhau hinsawdd gadarn, a gwella iechyd a lles ein cymunedau.