Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 222 o 248
£26m i helpu elusennau bach yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19.
Dechrau ymgyrch i hybu galw defnyddwyr am laeth
Mae ymgyrch farchnata i ddefnyddwyr ledled y DU i ddechrau, i gynyddu y galw am laeth gwlyb i gefnogi’r sector llaeth yr effeithiwyd arno gan Covid19.
Swyddfeydd tramor yn chwarae rôl allweddol yn ystod argyfwng y coronafeirws
Mae’r Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan rwydwaith o swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl o Gymru. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys helpu’r rheini sydd dramor, drwy gyfnod argyfwng y coronafeirws.
Gwasanaeth Cymru’n Gweithio’n hanfodol wrth ymdrin ag effeithiau’r coronafeirws
Flwyddyn ar ôl iddo gael ei lansio, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud y bydd Cymru’n Gweithio’n chwarae rôl hanfodol wrth helpu Cymru i adfer o effeithiau’r coronafeirws.
Hwyl Fawr. Am y Tro: Annog pobl i osgoi teithio ddiangen
Gofynnir i bobl yng Nghymru weithredu'n gyfrifol ac osgoi teithio diangen hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi codi cyfyngiadau coronafeirws.
Llywodraeth Cymru yn profi, monitro ac olrhain er mwyn rheoli achosion pellach o drosglwyddo Covid-19
Heddiw (5 Mai) mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi amlinellu Cynllun Ymateb uchelgeisiol er mwyn paratoi Cymru ar gyfer cam nesaf y pandemig Covid-19.
Gwasanaeth newydd gan wirfoddolwyr ar gyfer danfon presgripsiynau i gartrefi unigolion sy’n cael eu gwarchod ac sy’n hunanynysu
Heddiw (dydd Mawrth 5 Mai), fel ymateb i’r pandemig COVID-19, mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi trefniadau newydd, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol, sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru a’r Post Brenhinol, i sicrhau bod pobl sydd ar y rhestr warchod neu sy’n hunanynysu yn gallu parhau i gael eu meddyginiaethau ar bresgripsiwn.
Canolfan breswyl i droseddwyr benywaidd yng Nghymru
Heddiw, croesawodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, y cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Lucy Frazer y bydd y ganolfan breswyl gyntaf i droseddwyr benywaidd yn cael ei lleoli yng Nghymru.
Cyhoeddi cynllun grant seiber newydd gwerth £248,000 i awdurdodau lleol Cymru
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd £248,000 ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru i helpu i gryfhau eu seibergadernid mewn ymateb i’r argyfwng coronafeirws.
Llywodraeth Cymru yn ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal
Bydd yr holl drigolion a staff mewn cartrefi gofal ag achosion o’r coronafeirws yn cael eu profi am y feirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.
Y Gweinidog yn diolch i werthwyr a chynhyrchwyr o Gymru sydd wedi parhau i ddarparu bwyd i’w cymunedau ac wedi bwydo staff y GIG yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi diolch i werthwyr bwyd a diod annibynnol sydd wedi cadw’r cadwyni cyflenwi lleol yn llifo ac wedi cefnogi staff y GIG yn ystod y pandemig.
11,000 o darianau wyneb i ysbytai ar arwyr gofal iechyd
Mae mwy na 11,000 o dariannau wedi’u cynhyrchu ar fyrder i ysbytai a staff y GIG sy’n gweithio yn Ne a Gorllewin Cymru.