Newyddion
Canfuwyd 3695 eitem, yn dangos tudalen 219 o 308
Gweinidog yr Economi, Ken Skates ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur
Wrth sôn am Ystadegau'r Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
Canolfan Ragoriaeth y Rheilffyrdd ar ei ffordd i hen safle glo brig: Llywodraeth Cymru’n cadarnhau buddsoddiad cyfalaf o £50 miliwn
Mae’r cynlluniau ar gyfer adeiladu canolfan profi trenau ar hen safle glo brig ym mlaenau cymoedd Dulais a Thawe wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw, gyda chyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n neilltuo £50 miliwn i ddatblygu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer y Rheilffyrdd (GCRE).
Canol trefi ledled Cymru i dderbyn dros £24m
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24m i adfywio canol trefi Cymru.
Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws a gynhelir am 5:15pm ar 23 Mawrth.
‘Mae gofalu yn fater i bawb’
‘Mae gofalu yn fater i bawb’ – dyna’r neges wrth i Gymru adnewyddu ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl heddiw [Dydd Mawrth 23 Mawrth] drwy gyhoeddi strategaeth a blaenoriaethau cenedlaethol, flwyddyn wedi’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yng Nghymru.
Cronfa Adferiad Ddiwylliannol wedi'i hymestyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30m i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau.
Ymestyn y rhaglen profi cymunedol i reoli brigiadau o achosion
Bydd y rhaglen profi cymunedol yn cael ei hymestyn hyd ddiwedd mis Medi i helpu i reoli brigiadau o achosion a thargedu ardaloedd sy’n gweld cynnydd cyflym mewn achosion, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Llun 22 Mawrth).
Cymru’n lansio’r system genedlaethol gyntaf ar gyfer cadw cofnodion cleifion gofal llygaid yn ddigidol
Bydd dros £8.5m yn cael ei fuddsoddi i greu Cofnodion Electronig am Gleifion a System Atgyfeirio Electronig ddigidol ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Dyma’r system genedlaethol gyntaf o’i math.
Wizz Air yn barod i esgyn i’r awyr
Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyfarfod â chwmni hedfan mwyaf newydd Cymru, Wizz Air, cyn lansiad y safle ym Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddarach eleni.
£1.5m i sicrhau etholiad Senedd diogel o ran COVID
Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau £1.5m i swyddogion canlyniadau i alluogi iddynt wneud gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd yn ddiogel o ran COVID.
Cyhoeddi cynllun y gwasanaethau iechyd a gofal i adfer ar ôl y pandemig
Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynllun, gyda chymorth £100m o gyllid yn y lle cyntaf, i helpu’r system iechyd a gofal yng Nghymru i adfer ar ôl pandemig COVID-19.
Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd i wneud iawn am golli Erasmus+
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewidfa dysgu rhyngwladol newydd, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu'n ôl o gynllun poblogaidd Erasmus+.