Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 221 o 248
Dim newid i sefyllfa'r ysgolion ar 1 Mehefin, meddai'r Gweinidog Addysg
"Ni fydd y sefyllfa i ysgolion Cymru yn newid ar y cyntaf o Fehefin." Dyna oedd neges Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg heddiw wrth iddi gadarnhau'r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer addysg yng Nghymru.
Goleuo Safleoedd hanesyddol Cymru
8pm dydd Iau 7 Mai
Herio cynghorau i newid amgylchedd trafnidiaeth Cymru pan fo cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws
Caiff awdurdodau lleol eu gwahodd i drawsnewid system drafnidiaeth Cymru drwy fesurau megis lonydd beicio dros dro, lledu palmentydd a chyflwyno cyfyngiadau cyflymder – gan ystyried esiamplau sydd wedi’u cyflwyno mewn llefydd fel Milan a Berlin mewn ymateb i ffyrdd tawelach.
Arhoswch Gartref ac Arbed Bywydau dros benwythnos Gŵyl y Banc
Dros benwythnos Gŵyl y Banc, cofiwch aros gartref ac achub bywydau.
Cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn cyrraedd busnesau’n gyflym
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi datgelu bod gwerth bron i £65m o geisiadau bellach wedi cael eu prosesu gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.
Y Gweinidog Jane Hutt yn canmol ymdrechion gwirfoddolwyr Cymru wrth i ysbytai maes Sir Gaerfyrddin recriwtio 360 o wirfoddolwyr mewn 24 awr
Wrth i Gymru ystyried dyfodol y cyfyngiadau symud, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi canmol gwirfoddolwyr yng Nghymru ac wedi annog eraill i ymuno â nhw, gan y bydd angen eu cymorth yn fwy nag erioed yn ystod y misoedd nesaf.
Llythyr agored yn diolch i nyrsys ym maes gofal cymdeithasol am eu hymroddiad
Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi ymuno ag eraill mewn swyddi uwch yn y genedl i ddiolch i nyrsys sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Gwirfoddolwyr yn cynhyrchu miloedd o setiau o sgrybs hanfodol ar gyfer arwyr y gwasanaethau gofal iechyd
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi datgelu bod dros 100 o wirfoddolwyr yn cynhyrchu sgrybs meddygol y mae dirfawr eu hangen ar arwyr y gwasanaethau gofal iechyd yn GIG Cymru, gan ddefnyddio defnydd ar ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Gweinidog yn lansio ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ gyda neges i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig: Mae cymorth ar gael, dydych chi ddim ar eich pen eich hun
Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw wedi lansio ymgyrch newydd i sicrhau bod y rhai sy’n dioddef ac wedi goroesi camdriniaeth ddomestig yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a bod modd iddyn nhw gael cymorth drwy gydol yr argyfwng coronafeirws a thu hwnt.
Athrawes o Gaerdydd yn trefnu i gynhyrchu miloedd o sgrybs hanfodol i’n gweithwyr arwrol sy’n darparu gofal iechyd
Mae athrawes tecstiliau o Gaerdydd yn defnyddio ei harbenigedd yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws drwy helpu i gydlynnu proses i gael gwirfoddolwyr i greu miloedd o sbrybs meddygol y mae angen mawr amdanynt ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru y GIG.
Cyhoeddi cymorth i Ardaloedd Gwella busnes i helpu canol trefi
Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru gyda’u costau rhedeg am hyd at dri mis.
Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar Covid-19 yn gweithredu ar draws y Llywodraeth
Mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol a phryder bod haint COVID-19 yn cael effaith andwyol anghymesur ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), cyfarfu grŵp cynghorol iechyd Llywodraeth Cymru ar Covid-19 am yr eildro heddiw.