Newyddion
Canfuwyd 3695 eitem, yn dangos tudalen 216 o 308
Diweddariad gan Lywodraeth Cymru – Brechlyn AstraZeneca
Gan gadw at yr wybodaeth arbenigol ddiweddaraf, fel mesur rhagofalus byddwn ni’n ymateb ar unwaith i’r newid yn y cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ac yn cynnig brechlyn arall yn lle brechlyn AstraZeneca i bobl o dan 40 oed sydd heb ffactorau risg glinigol ac sydd heb gael eu brechu eto. Bydd y brechlyn priodol ar gael yn eu hapwyntiad.
Cadarnhau llacio cyfyngiadau coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru o ddydd Llun 3 Mai.
Penodi Sue Tranka yn Brif Swyddog Nyrsio newydd ar gyfer Cymru
Cadarnhawyd mai’r Prif Swyddog Nyrsio newydd ar gyfer Cymru yw Sue Tranka, a fydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru yn ystod haf 2021.
Gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd ar-lein
O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, bydd gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd a fydd yn cael ei ddanfon yn syth i’w cartref. Gall pobl archebu prawf yma: https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau
Llacio rhagor o’r cyfyngiadau coronafeirws yn gynt
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i’r cyfyngiadau coronafeirws.
Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru
Heddiw, wrth i’r achosion o heintiadau COVID-19 newydd barhau i ostwng, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill.
Pobl yng Nghymru sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i ddefnyddio hunan-brofion llif unffordd
Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru.
Cysylltiadau aelwydydd oedolion gyda imiwnedd ataliedig i gael cynnig brechiad COVID-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JVCI) y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth.
Yn dilyn cyhoeddiad Palas Buckingham heddiw am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, dyma deyrnged gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynegi ei dristwch o glywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin ac wedi cydymdeimlo â’i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a’r teulu Brenhinol ar ran Llywodraeth Cymru.
Llacio cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru yn gynt
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu elfennau o'i rhaglen i lacio’r cyfyngiadau Covid-19, wrth i’r gostyngiad mewn heintiadau newydd barhau ledled Cymru.
Y trydydd brechlyn Covid-19 yn cyrraedd Cymru
Mae’r trydydd brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw (dydd Mercher 7 Ebrill) ymlaen, a chleifion yn Sir Gaerfyrddin fydd y rhai cyntaf yn y Deyrnas Unedig i'w dderbyn.
Annog ceidwaid dofednod i gynnal y safonau bioddiogelwch uchaf posibl wrth i fesurau cadw adar dan do gael eu codi
- Mae’r gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do yn cael ei godi
- Mae safonau uchel o ran bioddiogelwch yn parhau’n hanfodol gan fod risg ffliw adar yn parhau.
- Mae mesurau bioddiogelwch gorfodol newydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw adar a gedwir y tu allan