Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 213 o 248
Creu Catrefi Estynedig fel bod teuluoedd yn cael dod at ei gilydd eto
Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi heddiw [dydd Llun Mehefin 29] y bydd pobl o ddau gartref ar wahân yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig.
Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn annog siopwyr i ddangos eu cariad at ddiwydiant bwyd a diod Cymru
Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas.
Cyhoeddi Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw [dydd Gwener 26] mai Charles Janczewski fydd cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cyhoeddi canllawiau coronafeirws newydd ar gyfer safleoedd prosesu cig a bwyd
Mae canllawiau newydd i safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd am atal a rheoli achosion o’r coronafeirws wedi’u cyflwyno i’r sector heddiw.
Cynyrchiadau uchel eu proffil yn edrych ymlaen at weithio yng Nghymru unwaith eto
Bydd camerâu’n dechrau ffilmio yng Nghymru unwaith eto, wrth i waith ar gynyrchiadau uchel eu proffil ddechrau, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, wedi cyfnod anodd iawn i’r diwydiant ffilm a theledu ledled y byd.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cymorth grant ar gyfer busnesau newydd
Mae Mark Drakeford y Prif Weinidog wedi cyhoeddi grant heddiw i gefnogi busnesau newydd i ddelio gydag effaith ddifrifol y Coronavirus.
Cronfa i helpu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau digidol gwell
Bydd cronfa un filiwn o bunnoedd ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn i bobl allu manteisio ar wasanaethau llywodraeth leol ar-lein yn haws.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau cyntaf arolwg newydd pwysig yn ymwneud â COVID-19
Mae canlyniadau ymchwil newydd sy’n dangos sut mae argyfwng y coronafeirws wedi effeithio ar bobl ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.
Dyfarnu £150,000 i fentrau digidol mewn ymateb i COVID-19
Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i bum menter iechyd ddigidol yn sgil galwad gwerth £150,000 am gynigion ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technoleg ddigidol mewn ymateb i’r coronafeirws a’r tu hwnt.
Lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ar draws sector llaeth y DU
- Llywodraethau y DU yn ymgynghori ar amodau newydd, tecach I gontractau llaeth
- Ffermwyr a chynhyrchwyr llaeth yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynigion
Pobl ifanc i ofyn y cwestiynau yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru
Heddiw, bydd plant a phobl ifanc yn gofyn y cwestiynau agoriadol i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru.