Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 209 o 248
Cronfa Llywodraeth Cymru gwerth £34 miliwn yn diogelu dros 14,000 o swyddi yng Ngogledd Cymru
Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi dros 1800 o fusnesau Gogledd Cymru gyda £34 miliwn o gyllid, gan helpu iddynt warchod dros 14,000 o swyddi.
Meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yn cael ailagor – Y Prif Weinidog
Bydd meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yng Nghymru’n cael ailagor ddydd Llun, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw (Gwener, 17 Gorffennaf).
Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2020 heddiw
Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn gwarchod 75,000 o swyddi
Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau yng Nghymru, gan helpu iddynt warchod oddeutu 75,000 o swyddi.
“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni ailosod y cloc” – Y Gweinidog yn esbonio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer byd ar ôl COVID
Cadw’r newidiadau adeiladol a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws yw byrdwn canolog polisi cynllunio newydd Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Y Gweinidog Addysg yn croesawu cynnydd mewn ceisiadau prifysgol o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan UCAS yn dangos cynnydd o 2% mewn ceisiadau prifysgol gan ieuenctid 18 oed o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Gwarchod yng Nghymru i ddod i ben am y tro o 16 Awst
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst.
Bil wedi ei basio i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru
Mae Bil i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru wedi ei basio heddiw (dydd Mercher 15 Gorffennaf) gan y Senedd.
Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dros 50 o gyfreithiau ddelio â’r coronafeirws
Y Prif Weinidog yn amlinellu ei flaenoriaethau deddfwriaethol
Cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer COVID-19
Heddiw [dydd Mercher 15 Gorffennaf], mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer y coronafeirws.
Gwersi gyrru i ailddechrau yng Nghymru ar 27 Gorffennaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff gwersi gyrru yng Nghymru ailddechrau ar 27 Gorffennaf.
Cyhoeddi £9 miliwn i helpu canol trefi i ddod at eu hunain wedi’r Coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £9 miliwn ar gael i helpu canol trefi ddod at ei hunain wedi’r Coronafeirws.