Newyddion
Canfuwyd 3967 eitem, yn dangos tudalen 204 o 331
Prif Weinidog Cymru yn bwriadu amlinellu cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau
Yfory (dydd Gwener), bydd y Prif Weinidog yn nodi sut y mae Cymru yn bwriadu symud yn ôl i lefel rhybudd sero os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.
Llywodraeth Cymru i helpu pobl sydd ag ôl-ddyledion i dalu eu rhent
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annog unrhyw un sydd wedi syrthio i ddyled gyda’u taliadau rhent oherwydd y pandemig i gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael gwybod a allant gael cymorth ariannol i osgoi cael eu troi allan.
Cyllid newydd o £65 miliwn i helpu colegau a phrifysgolion i gyrraedd sero net
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid newydd o £65 miliwn i gefnogi'r sectorau addysg bellach, addysg uwch a dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru.
Gweinidogion Cyllid yn galw am hyblygrwydd gyda chyllid COVID
Heddiw, ar ôl iddynt gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar y cyd i’r Trysorlys roi sicrwydd y bydd yr arian sy’n cael ei neilltuo i gefnogi’r ymateb i COVID yn cael ei ddarparu'n llawn.
Gwarchod eich adar rhag ffliw adar
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi pwysleisio pwysigrwydd pobl yn parhau i gymryd camau i warchod eu hadar rhag ffliw adar.
Mynegi pryderon am ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi “pryderon gwirioneddol” am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau.
£15.4m i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4m ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus Covid19, mae'r Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi heddiw.
“Helpwch ni i’ch helpu chi y gaeaf hwn” – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn annog pawb i'n ‘helpu ni, i’ch helpu chi’ wrth iddi gyhoeddi rhagor o gyllid i liniaru’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol a’u helpu y gaeaf hwn.
Cyhoeddi enw’r Comisiynydd Plant Cymru nesaf
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Rocio Cifuentes fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru.
£18 miliwn i gryfhau’r cymorth i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae cyllid newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi’i gyhoeddi gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Gofyn i bobl ddiogelu Cymru wrth i fesurau lefel rhybudd 2 aros yn eu lle
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron.
Mwy na £100m o gyllid newydd yn helpu i wneud ysgolion a cholegau yn ddiogel o ran Covid
Bydd ysgolion a cholegau yn derbyn £103 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wrth i ddysgwyr ddychwelyd ar gyfer tymor mis Ionawr.