Newyddion
Canfuwyd 4056 eitem, yn dangos tudalen 207 o 338
Mwy na £330m i helpu pobl i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o fesurau ehangach i helpu pobl â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys taliad costau byw o £150 i’w dalu cyn gynted â phosibl a £200 ychwanegol i aelwydydd incwm isel drwy’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf.
Cyhoeddi Penodi Aelodau Newydd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans wedi cyhoeddi bod Michael Imperato a Frank Cuthbert wedi’u penodi’n aelodau o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Miloedd i elwa ar feddyginiaeth wrthfeirol yng Nghymru
Bydd modd i filoedd o bobl yng Nghymru elwa ar feddyginiaeth wrthfeirol newydd a allai leihau’n sylweddol eu risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19.
Cymru yn annog rhagor o ferched i ddod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr
Bydd annog rhagor o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn helpu Cymru i arloesi wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau
Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau.
Y cam nesaf tuag at ddatblygu treth dwristiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr leol yn dechrau yn hydref 2022.
Yr Arglwydd Burns i arwain Adolygiad Trafnidiaeth Gogledd Cymru
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi heddiw y bydd comisiwn trafnidiaeth newydd yn cael ei sefydlu a fydd yn datblygu cyfres o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru.
Gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 – 25 oed ac i’r holl staff addysgu
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i bob ymarferydd addysg.
Buddsoddi £96m i roi taliad ychwanegol o £1,000 i ddegau o filoedd o staff gofal cymdeithasol
Bydd degau o filoedd o staff gofal cymdeithasol a fydd yn gymwys i gael cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill yn cael taliad net ychwanegol o £1,000 wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector.
Prentisiaid yn chwarae rhan bwysig mewn bragdy
Mae prentisiaid Budweiser wedi cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a thrafod manteision mynd yn brentis gyda’r cwmni.
Ehangu rhaglen dŵr gwastraff ledled Cymru
Mae rhaglen sy’n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru i brofi dŵr gwastraff ar gyfer COVID-19 wedi’i hehangu yng Nghymru i gynnwys pob bwrdd iechyd a phob awdurdod lleol ar draws 48 safle.
£8.1bn i gefnogi seilwaith gwyrdd
Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud mai’r "uchelgais cyffredinol" yn Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar ei newydd wedd yw mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.