Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 205 o 248
Yr adolygiad o drafnidiaeth i ddysgwyr yn cael ei estyn i ystyried y trothwyon ar gyfer disgyblion sy’n teithio am ddim
Mae adolygiad gan Lywodraeth Cymru o drafnidiaeth i ddysgwyr wedi cael ei estyn i ystyried y trothwyon pellter lle mae plant 4–16 mlwydd oed yn gymwys i deithio i’r ysgol am ddim.
Mwynhau Cymru – yn ddiogel
Ar drothwy’r penwythnos cyntaf ers i leoliadau lletygarwch dan do ailagor a chan fod disgwyl i’r tywydd fod yn braf mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn awyddus i atgoffa trigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig – ond mewn modd diogel
Cyhoeddi £2.3m ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu – wrth i ymholiadau yng Nghymru godi traean yn ystod cyfnod y cyfyngiadau
- Bu cynnydd o un rhan o draean mewn ymholiadau cychwynnol ynglŷn â mabwysiadu
- Bu cynnydd yn nifer yr asesiadau mabwysiadu sydd wedi cychwyn
- Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £2.3m ar gyfer y gwasanaethau cymorth mabwysiadu
Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor
Heddiw (dydd Gwener 7 Awst), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.
“Mae'n rhaid i ni weithredu nawr" – Gweinidog yn lansio Cynllun Aer Glân i Gymru, cynllun Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer
Heddiw (dydd Iau, 6 Awst), mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd i wella ansawdd aer y wlad o dan ei Chynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.
Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yn cadeirio’r Uwchgynhadledd Tomenni Glo
Ddoe, cynhaliodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yr ail Uwchgynhadledd Tomenni Glo ers tirlithriad Tylorstown yn ystod llifogydd mis Chwefror eleni.
Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn sefydlogi gwerth £800m ar gyfer GIG Cymru
Heddiw mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi pecyn sefydlogi newydd gwerth £800m i helpu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru i barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws ac adfer o’i effaith. Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn cymryd cyfanswm y cymorth COVID-19 gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau’r GIG i dros £1.3bn.
Cynnal Cynhadledd Gweithgynhyrchu y Gogledd ac Ardal y Ffin
Cafodd cynhadledd bwysig ei chynnull heddiw (ddydd Mawrth, 4 Awst) gan Weinidog yr Economi a’r Gogledd Ken Skates gydag arweinwyr y byd gweithgynhyrchu yn y Gogledd ac ardal y ffin.
Llacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol am gyfnod estynedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol tan 31 Mawrth 2021.
Coronafeirws: cyngor newydd ynglŷn â phryd i geisio cymorth meddygol
Heddiw (dydd Mawrth 4 Awst) mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i gysylltu ag 111 neu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os ydynt yn dioddef o ddiffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn rhoi nawdd angenrheidiol i gwmni o Wrecsam
Mae Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help angenrheidiol i gyflogwr pwysig yn Wrecsam allu diogelu swyddi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates.
Cynnig Gofal Plant Cymru i ailagor
Heddiw [dydd Mawrth 4 Awst], mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i rieni plant 3 a 4 oed ledled Cymru sy’n gweithio.