Newyddion

Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 231 o 320

Welsh Government

Canol trefi ledled Cymru i dderbyn dros £24m

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24m i adfywio canol trefi Cymru.

Welsh Government

Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws a gynhelir am 5:15pm ar 23 Mawrth.

Parent carer and son-4

‘Mae gofalu yn fater i bawb’

‘Mae gofalu yn fater i bawb’ – dyna’r neges wrth i Gymru adnewyddu ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl heddiw [Dydd Mawrth 23 Mawrth] drwy gyhoeddi strategaeth a blaenoriaethau cenedlaethol, flwyddyn wedi’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yng Nghymru.

arts-7

Cronfa Adferiad Ddiwylliannol wedi'i hymestyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30m i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau.

Welsh Government

Ymestyn y rhaglen profi cymunedol i reoli brigiadau o achosion

Bydd y rhaglen profi cymunedol yn cael ei hymestyn hyd ddiwedd mis Medi i helpu i reoli brigiadau o achosion a thargedu ardaloedd sy’n gweld cynnydd cyflym mewn achosion, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Llun 22 Mawrth).

Eye care 1-2

Cymru’n lansio’r system genedlaethol gyntaf ar gyfer cadw cofnodion cleifion gofal llygaid yn ddigidol

Bydd dros £8.5m yn cael ei fuddsoddi i greu Cofnodion Electronig am Gleifion a System Atgyfeirio Electronig ddigidol ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Dyma’r system genedlaethol gyntaf o’i math. 

Welsh Government

Wizz Air yn barod i esgyn i’r awyr

Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyfarfod â chwmni hedfan mwyaf newydd Cymru, Wizz Air, cyn lansiad y safle ym Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddarach eleni.

Polling Station

£1.5m i sicrhau etholiad Senedd diogel o ran COVID

Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau £1.5m i swyddogion canlyniadau i alluogi iddynt wneud gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd yn ddiogel o ran COVID.

NHS Recovery-2

Cyhoeddi cynllun y gwasanaethau iechyd a gofal i adfer ar ôl y pandemig

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynllun, gyda chymorth £100m o gyllid yn y lle cyntaf, i helpu’r system iechyd a gofal yng Nghymru i adfer ar ôl pandemig COVID-19.

Welsh Government

Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd i wneud iawn am golli Erasmus+

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewidfa dysgu rhyngwladol newydd, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu'n ôl o gynllun poblogaidd Erasmus+.

Welsh Government

Cyllid Llywodraeth Cymru i wreiddio prosiect cynhyrchu bwyd mewn cymunedau wrth i’r Cynllun Cyflawni Sylfaenol gael ei gyhoeddi

Fel rhan o'i hymrwymiad i gryfhau economïau lleol a bob dydd Cymru, mae  Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiect arloesol a fydd yn arwain at gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yng nghanol pedair cymuned ledled Cymru.

Welsh Government

£500 i helpu rhieni mewn profedigaeth yng Nghymru

Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd teuluoedd yng Nghymru sydd wedi cofrestru marwolaeth plentyn dan 18 oed yn gallu derbyn cyfraniad o £500 tuag at gost yr angladd, o 1 Ebrill ymlaen.