Newyddion
Canfuwyd 3689 eitem, yn dangos tudalen 235 o 308
Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ar Gyffordd 19 ar yr A55
Mae gwaith hanfodol i osod uniadau newydd ar Draphont Glanconwy wrth Gyffordd 19 ar yr A55 wedi'i aildrefnu ar gyfer diwedd y mis.
£40 miliwn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Bydd hyn yn helpu’r myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt gyda threuliau megis costau llety.
50 o ddysgwyr yr eiliad yn mewngofnodi i ddysgu ar-lein a ffyrdd eraill sy'n dangos sut mae Cymru yn 'arwain y ffordd' mewn gwasanaethau digidol i gefnogi dysgu o bell
Bydd mwy na 35,000 o liniaduron a thabledi yn cael eu darparu i ddysgwyr dros yr wythnosau nesaf, gan ddod â'r cyfanswm a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ers dechrau pandemig y coronafeirws i fwy na 133,000.
Llywodraeth Cymru i gryfhau’r ddeddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau’n fwy diogel
Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Y gweithlu iechyd yn ‘dod ynghyd’ i frechu Cymru’n ddiogel wrth i gynllun peilot ddechrau mewn fferyllfeydd
Mae gweithlu gofal iechyd Cymru yn ‘dod ynghyd’ i sicrhau bod rhaglen frechu COVID-19 Cymru yn cael ei chyflwyno mor gyflym ag sy’n ddiogel, meddai’r Gweinidog Iechyd.
Profion Coronafeirws gorfodol newydd ar gyfer teithwyr i Gymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd yn ofynnol i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o bob cyrchfan ryngwladol gyflwyno canlyniad negyddol i brawf COVID-19 cyn gadael er mwyn helpu i ddiogelu rhag y mathau newydd o coronafeirws sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.
Aros Gartref i Achub Bywydau – diolch i wirfoddolwyr cymunedol
Heddiw, diolchodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, i’r llu o wirfoddolwyr cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio’n galed i ofalu amdanoch chi a’ch anwyliaid a’ch cadw’n saff yn y cyfnod anodd iawn hwn.
Y Prif Weinidog yn croesawu adroddiad newydd sy’n galw am ddiwygio cyfansoddiad y DU ar “batrwm ffederal radical”
Gan groesawu cyhoeddi adroddiad newydd sy’n galw am ddiwygio cyfansoddiad y DU ar “batrwm ffederal radical”, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
Pob cartref i gael gwybodaeth am y brechlyn
Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu rhag COVID-19.
Y prosiectau cyntaf i elwa o’r gronfa band eang gwerth £10 miliwn
Mae’r prosiectau cyntaf i elwa o Gronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cyhoeddi heddiw gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Llywodraeth Cymru yn lansio Papur Gwyn ar Aer Glân ac yn adrodd ar effaith y cyfyngiadau symud ar ansawdd yr aer
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn nodi ei chynlluniau cadarn ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru), a fydd yn diogelu, yn gyfreithiol, iechyd y genedl a'n hecosystemau rhag llygryddion aer niweidiol yn ein hatmosffer.
Cronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol er mwyn diogelu mwy na 60 o swyddi mewn cwmni yn Wrecsam
Mae Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu 63 o swyddi yng nghwmni gweithgynhyrchu Isringhausen GB Limited yn Wrecsam.