Newyddion
Canfuwyd 2906 eitem, yn dangos tudalen 238 o 243
Gweinidog yn dathlu llwyddiant sector diodydd y Gogledd wrth inni adael yr UE
Ddiwrnod yn unig cyn i Gymru a'r DU adael yr UE, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn hyderus y bydd diwydiant diodydd y Gogledd, sy'n prysur dyfu, yn parhau i ddisgleirio.
5 peth i'w wybod am adran 2 prosiect Blaenau'r Cymoedd
Mae datblygiad yr A465 yn un o brosiectau seilwaith mwyaf Cymru. Mae Rhan 2, rhwng Gilwern a Brynmawr, yn golygu lledu Ceunant Clydach sy'n safle hynod serth ac amgylcheddol sensitif.
Dyma'r ffeithiau a'r ffigurau sy'n dangos maint y cynllun.
Blaenoriaethau newydd i gefnogi twf Diwydiannau Creadigol Cymru
Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas yn lansio Cymru Greadigol - i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel y lle i fusnesau creadigol ffynnu ynddo.
Cymru yn pleidleisio dros roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
Cymru yw’r wlad ddiweddaraf i ymuno â’r grŵp dethol o tua 58 o wledydd ar draws y byd i roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
Carreg filltir enfawr i addysg Cymru wrth i ganllawiau diwygiedig y cwricwlwm gael eu cyhoeddi gydag ymrwymiad o £15m i helpu athrawon ei roi ar waith
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ganllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru heddiw (dydd Mawrth, 28 Ionawr) gan gadarnhau £15m o gymorth ychwanegol i athrawon wrth iddynt baratoi i’r roi ar waith.
Y Cynnig Gofal Plant yn rhoi hwb i’r Gogledd
Mae dros 3,200 o blant ar draws y Gogledd yn manteisio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, gyda dros 600 o leoliadau bellach yn ei ddarparu.
£7.473 biliwn o resymau pam y mae rhaid i ddiwydiant bwyd a diod Cymru barhau i ffynnu ar ôl Brexit
Yn ystod yr wythnos y bydd Cymru a'r DU yn ymadael â'r UE, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi mynnu bod rhaid i ddiwydiant bwyd a diod llewyrchus Cymru barhau i ffynnu, yn dilyn blwyddyn o lwyddiant digymar.
Y Prif Weinidog yn gofyn i Gymru 'sefyll gyda'n gilydd' wrth i'r byd gofio'r Holocost
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i Gymru sefyll gyda'n gilydd a dathlu amrywiaeth wrth i'r byd nodi 75 mlynedd ers yr Holocost.
Rhaglen £90 miliwn i drawsnewid trefi yng Nghymru
Bydd trefi yng Nghymru yn cael gwerth £90 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol fel rhan o ddull gweithredu newydd ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn trawsnewid canol trefi ledled y wlad, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, heddiw.
Gweinidog yn ddeud mae cais UNESCO am tirwedd llechi unigryw gogledd Cymru yn “llwyr haeddu” statws Safle Treftadaeth y Byd
Mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cefnogi’r ddatganiad heddiw y mae Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru wedi ei gyflwyno fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO potensial.
Llywodraeth Cymru yn dwbli cefnogaeth am ddull gweithredu ‘ysgol gyfan’ o ran iechyd meddwl
Mae Llywodraeth Cymru wedi dwbli cefnogaeth i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ledled Cymru er mwyn amddiffyn, gwella a rhoi cymorth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Y Gweinidog Cyllid yn mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn helpu pobl ifanc i gael y cynilion sy’n ddyledus iddynt o dan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi ysgrifennu at Drysorlys y DU yn mynnu bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth i gael y cynilion sy’n ddyledus iddynt o dan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.