Newyddion
Canfuwyd 3967 eitem, yn dangos tudalen 240 o 331
Miliynau i Gasnewydd gyflawni argymhellion adroddiad Burns
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion i wella trafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r ardal o amgylch.
Cynlluniau ar gyfer clwstwr technoleg newydd yng Nglynebwy yn mynd rhagddynt
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu clwstwr technoleg newydd cyffrous yng Nglynebwy yn symud ymlaen yn sgil buddsoddiad mewn technoleg 5G, campws newydd ar gyfer profion seiber a llety newydd ac arloesol ar gyfer busnesau.
Partneriaeth newydd i wella gwasanaethau bysiau er lles y cyhoedd
Mae cynrychiolwyr blaenllaw’r sector cyhoeddus a’r diwydiant bysiau wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn gwella gwasanaethau bysiau ac yn helpu i wireddu’r nod o integreiddio’r system drafnidiaeth.
Penodiadau i Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
Heddiw, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi tri phenodiad i Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.
Hwb o £9m i Fetro Gogledd Cymru
Mae mwy na £9m ar gael i Drafnidiaeth Cymru i ddatblygu gwaith ar fetro Gogledd Cymru, yn ôl Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru heddiw [dydd Mercher, 24 Mawrth].
Cynyddu cyfleoedd i gymunedau ethnig amrywiol ym maes ffilmiau a theledu
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi rhaglen beilot newydd gyda phartneriaid BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Channel 4 sy'n anelu at gynyddu cyfleoedd i gymunedau ethnig amrywiol ym maes ffilmiau a theledu.
Mwy na £2.8 miliwn i gefnogi prosiectau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £2.8 miliwn i sbarduno prosiectau pwysig yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru a fydd yn cefnogi’r rhanbarth i adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws.
Cymru'n gweithredu ar yr Economi Gylchol gyda chyllid, diwygiadau gerllaw ar blastig a moratoriwm ar ynni gwastraff ar raddfa fawr
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn datgan pecyn o fesurau i gyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd ganddi yn ei strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn gynharach y mis hwn.
Lansio ymgynghoriad ar Safle Rheoli Ffiniau Caergybi
Mae'r ymgynghoriad cynllunio yn agor heddiw ar leoliad y safle rheoli ffiniau ar gyfer porthladd Caergybi. Bwriedir lleoli’r safle ar Lain 9, Parc Cybi
Gweinidogion yn galw am roi’r gorau i ddiystyru’r Llywodraethau Datganoledig
Mae gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig wedi dod ynghyd i leisio’u pryderon bod Llywodraeth y DU yn diystyru’r Llywodraethau Datganoledig a’r strwythurau presennol wrth ddyrannu’r cyllid a ddaw yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.
Hwb o £9.8 miliwn i fioamrywiaeth Cymru
Mi fydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn dweud heddiw bod safleoedd naturiol gwarchodedig a chynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol Cymru yn cael hwb o bron i £10 miliwn.
£12m i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd ledled Cymru
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi £12m ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol drwsio tyllau yn y ffordd a gwella ffyrdd, palmentydd a llwybrau teithio llesol ledled Cymru.