Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 242 o 248
Gweinidog yn croesawu'r cynnydd diweddaraf yn nifer y ceisiadau i brifysgolion Cymru
Yn ôl data ceisiadau myfyrwyr a gyhoeddwyd heddiw, gwelwyd cynnydd o 6% yn nifer y ceisiadau i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, y cynnydd mwyaf ymhlith pedair cenedl y Deyrnas Unedig.
Gweinidog yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau tân ac achub Cymru
Gallai gwasanaethau tân ac achub Cymru gael rôl ehangach wrth gadw pobl yn ddiogel fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol. Dyma gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn heddiw.
£5.5m i helpu i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £5.5m arall i gefnogi cynlluniau i atal gordewdra yng Nghymru.
Cam-drin rhywiol yw hyn
Lansio ymgyrch newydd heddiw a gynlluniwyd gan oroeswyr camdriniaeth rywiol i helpu pobl i adnabod yr arwyddion
Cynllun llwyddiannus Llwgu yn ystod y Gwyliau yn cael ei gyflwyno ledled Cymru
Bydd cynllun peilot sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd a llwgu yn ystod y gwyliau yn dychwelyd eleni – gyda chyllid Llywodraeth Cymru yn codi o £100,000 i £1m.
Creu 91 o swyddi newydd yn Rhymni yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £650,000 yng nghwmni Williams Medical Supplies (WMS) yng Nghaerffili. Bydd 91 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y Cymoedd yn sgil y buddsoddiad hwn.
Rhoi wyneb newydd ar Gyffyrdd 35 – 34 yr A55
Cynhelir gwaith o roi wyneb newydd ar yr A55 i’r gorllewin rhwng Cyffordd 35 Dobshill a Chyffordd 34 Ewloe.
£1.4m i drawsnewid Neuadd Marchnad Llandeilo yn ddatblygiad o’r radd flaenaf
Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Neuadd Marchnad Llandeilo yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan fusnes arloesol ar gyfer canol y dref a’r gymuned ehangach yn sgil buddsoddiad o £1.4m gan Lywodraeth Cymru a’r UE.
£6.5m ar gyfer gwasanaeth gofal canser digidol newydd yng Nghymru
Ar Ddiwrnod Canser y Byd (dydd Mawrth 4 Chwefror), mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi £6.5m ar gyfer gwasanaeth gofal canser digidol newydd yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £950,000 i ddatblygu Glan yr Afon, y Drenewydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £950,000 i ddatblygiad Glan yr Afon yn y Drenewydd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.
Disgwyl i Lywodraeth Cymru guro’r targed o greu 100,000 o brentisiaethau
Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd cywir i guro’r targed o ddarparu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates ar ddechrau’r Wythnos Prentisiaethau.
Perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer y diwydiant awyrofod - Prif Weinidog
Bydd perthynas y Deyrnas Unedig (y DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer diwydiant awyrofod Cymru. Dyna oedd neges y Prif Weinidog wrth iddo ymweld ag Airbus.