Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 245 o 248
Cyllid newydd i gefnogi pobl anabl ar ôl Brexit
Mae elusen yng Nghymru wedi cael cyllid newydd i gefnogi pobl anabl a'u paratoi ar gyfer yr effaith y gallai ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) o'r Undeb Ewropeaidd (UE) ei chael ar eu bywydau o ddydd i ddydd.
Arolygon o Ystad ym Morgannwg ymhlith y casgliadau sy'n cael eu gwarchod yng Nghymru
Ymhlith y trysorau ym maes archifau sy'n cael eu diogelu gan Lywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT) eleni y mae cofnodion o Gasgliad Foyle Opera Rara, sydd yng ngofal Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac arolygon a gynhaliwyd yn y 18fed ganrif o Ystad Plymouth, sy'n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, ac sy'n rhoi cipolwg inni ar berchenogaeth ar dir yn Ne Cymru, ac ar sut yr oedd yn cael ei ddefnyddio, cyn y cyfnod diwydiannol.
Cronfa gwerth £89m yn cefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gofal yng Nghymru
Mae cronfa gwerth £89m gan Lywodraeth Cymru yn darparu gofal yn nes at y cartref i bobl o bob oed, gan helpu i leihau'r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma oedd neges Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystod ymweliad ag ysgol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, 16 Ionawr).
Cynnydd yn y niferoedd sy’n mynd i brifysgol ar ôl i Gymru ddiwygio cyllid myfyrwyr
- Cynnydd o 2.6% yn nifer y bobl o Gymru sy’n cofrestru ym mhrifysgolion y DU, y cynnydd cyntaf mewn saith mlynedd
- Cynnydd o 9.2% mewn ôl-raddedigion o Gymru
- Nifer y cofrestriadau ym mhrifysgolion Cymru wedi cynyddu i 121,880
KK Foods yng Nglannau Dyfrdwy yn ehangu
Mae cwmni mawr sy’n cynhyrchu prydau rhewedig yng Nglannau Dyfrdwy yn bwriadu ehangu ac arallgyfeirio gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan greu 40 o swyddi newydd ychwanegol.
Strategaeth Ryngwladol newydd i Gymru
Heddiw, bydd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan yn lansio Strategaeth Ryngwladol gyntaf Cymru a fydd yn hyrwyddo'r wlad fel cenedl eangfrydig sy'n barod i weithio a masnachu gyda gweddill y byd.
Annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i gynnig cyfnod absenoldeb â chyflog i ddioddefwyr cam-drin domestig
Mae holl gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfnod absenoldeb â chyflog i'r rheini sy'n dioddef cam-drin domestig.
Rhaid ystyried buddiannau Cymru yn llawn ar ôl Brexit – Lesley Griffiths
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn llawn yn y trafodaethau ar ôl Brexit, mewn cyfarfod adeiladol – y cyfarfod cyntaf o'i fath ers Etholiad Cyffredinol y DU.
Hwb o £175m i'r gyllideb ar gyfer tai yng Nghymru
Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai, y bydd cyfanswm o £400m yn cael ei fuddsoddi mewn tai newydd yng Nghymru yn 2020-21, a hynny yn sgil hwb gwerth £175m i'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru.
Cymeradwyo pont newydd dros yr Afon Dyfi
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer adeiladu pont newydd dros yr Afon Dyfi, ar yr A487 i’r gogledd o Fachynlleth.
Y grant lleihau maint dosbarthiadau’n ‘gwneud gwahaniaeth go iawn’ i ysgolion Cymru
Mae adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 13 Ionawr) wedi dangos sut mae grant o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod yn ‘gwneud gwahaniaeth go iawn’ i ysgolion ledled Cymru.
£21m ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd ar ôl i’r Gweinidog gymeradwyo cynllun terfynol
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi rhoi £21 miliwn i Gyngor Caerdydd fel y gall weithredu cyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer. Mae’r Gweinidog bellach wedi cymeradwyo cynigion diwygiedig y Cyngor ar gyfer aer glân.