Newyddion
Canfuwyd 3803 eitem, yn dangos tudalen 244 o 317
Gweinidogion yn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil brys i reoli etholiad y Senedd yn ystod pandemig COVID
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ofyn am ganiatâd y Senedd ar gyfer cyflwyno Bil brys i sicrhau bod etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal yn ddiogel, gan alluogi etholwyr i gymryd rhan a bwrw pleidlais yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws.
Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru
Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7bn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig.
Lansio ap yng Nghymru i helpu i gefnogi pobl sydd â symptomau COVID hir
Heddiw (20 Ionawr), cafodd ap i helpu pobl i adfer eu hiechyd yn dilyn COVID ei lansio fel rhan o gymorth ehangach a gynigir i unigolion sy’n byw gydag effeithiau hirdymor wedi iddynt gael y coronafeirws.
Her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020
Heddiw, wnaeth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd diweddaru Aelodau o’r Senedd â’r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r Senedd rhag yr ymosodiad gan y Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ei chymhwysedd.
Diolch i’n holl wirfoddolwyr gwych yng Nghymru – cadwch yn ddiogel yn Lefel rhybudd 4
Heddiw, diolchodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, yr holl bobl wych a charedig o bob cefndir ledled Cymru sy'n gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu'r cyfyngiadau symud gyda'i gilydd.
Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo argymhellion Comisiwn
Cafwyd cadarnhad ynghylch sut y bwriedir mynd i'r afael â thagfeydd yn Ne-ddwyrain Cymru ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ar Gyffordd 19 ar yr A55
Mae gwaith hanfodol i osod uniadau newydd ar Draphont Glanconwy wrth Gyffordd 19 ar yr A55 wedi'i aildrefnu ar gyfer diwedd y mis.
£40 miliwn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Bydd hyn yn helpu’r myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt gyda threuliau megis costau llety.
50 o ddysgwyr yr eiliad yn mewngofnodi i ddysgu ar-lein a ffyrdd eraill sy'n dangos sut mae Cymru yn 'arwain y ffordd' mewn gwasanaethau digidol i gefnogi dysgu o bell
Bydd mwy na 35,000 o liniaduron a thabledi yn cael eu darparu i ddysgwyr dros yr wythnosau nesaf, gan ddod â'r cyfanswm a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ers dechrau pandemig y coronafeirws i fwy na 133,000.
Llywodraeth Cymru i gryfhau’r ddeddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau’n fwy diogel
Bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws o dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Y gweithlu iechyd yn ‘dod ynghyd’ i frechu Cymru’n ddiogel wrth i gynllun peilot ddechrau mewn fferyllfeydd
Mae gweithlu gofal iechyd Cymru yn ‘dod ynghyd’ i sicrhau bod rhaglen frechu COVID-19 Cymru yn cael ei chyflwyno mor gyflym ag sy’n ddiogel, meddai’r Gweinidog Iechyd.
Profion Coronafeirws gorfodol newydd ar gyfer teithwyr i Gymru
Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd yn ofynnol i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o bob cyrchfan ryngwladol gyflwyno canlyniad negyddol i brawf COVID-19 cyn gadael er mwyn helpu i ddiogelu rhag y mathau newydd o coronafeirws sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.