Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 241 o 248
Llwyddiant i fusnesau Cymru yn Sioe Awyr Paris
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bu Sioe Awyr Paris 2019 yn llwyddiant ysgubol a llwyddodd un cwmni, Tritech Group, i sicrhau gwerth dros £5 miliwn o gytundebau newydd yn ystod taith fasnach Llywodraeth Cymru.
Cymorth iechyd meddwl a chynnydd cyflogau staff ymhlith £23m ychwanegol i addysg bellach
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu manylion am y £23m ychwanegol bydd yn ei ddarparu i golegau addysg bellach, gan gynnwys colegau chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Creu cymunedau mwy cysylltiedig i helpu pobl i deimlo’n llai unig ac ynysig yn gymdeithasol
Mae teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn cael eu hystyried yn aml yn faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn, ond maen nhw'n dod yn fwyfwy pwysig i bob un ohonom. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 gan Lywodraeth Cymru, dywedodd 16% o'r boblogaeth dros 16 oed eu bod yn teimlo'n unig – ac roedd pobl iau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig na phobl hŷn.
“Mae angen inni ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber” meddai'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans yn llongyfarch enillwyr cystadleuaeth y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, CyberFirst Girls, yng Nghymru ac yn annog mwy o fenywod ifanc i ddilyn eu hôl troed a dewis gyrfa ym maes seiber.
Y duedd gadarnhaol o ran ffigurau cyflogaeth y Gogledd yn parhau
Mae'r gyfradd gyflogaeth yn parhau'n uwch, a'r gyfradd ddiweithdra a'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn parhau'n is yn y Gogledd nag yng Nghymru gyfan, yn ôl y Proffil Rhanbarthol diweddaraf ar gyfer y Farchnad Lafur a'r Economi.
Datgelu cyfraith newydd i roi mwy o sicrwydd meddiannaeth i bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru
O dan gyfraith newydd a ddatgelir heddiw gan Lywodraeth Cymru, rhoddir diogelwch o 12 mis i bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartref rhag cael eu troi allan ar ddechrau tenantiaeth newydd cyn belled nad ydynt wedi torri telerau eu contract.
Cymru ac Iwerddon yn gyrru cydweithrediad newydd ymlaen
Wrth i dimau rygbi Cymru ac Iwerddon wynebu ei gilydd yn y Chwe Gwlad heddiw, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles gyllid gwerth dros €6 miliwn ar gyfer tri phrosiect newydd a fydd yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.
Y Prif Weinidog yn llongyfarch prentisiaid ar eu gwaith cyn gêm Cymru ac Iwerddon
Wrth i’r Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol ddirwyn i ben, cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfarfod â phrentisiaid Undeb Rygbi Cymru a oedd yn hyfforddi dosbarth o ferched o Academi Ummul Mumineem, yng Nghaerdydd, i chwarae rygbi cadair olwyn.
Prosiect arloesol ar gyfer gwella seilwaith ffeibr
Cafodd manylion prosiect newydd ac arloesol sy'n anelu at wella seilwaith ffeibr am ddim cost ychwanegol i'r trethdalwr eu cyhoeddi heddiw gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters
Y Gweinidog Tai i ddelio â’r arfer o godi ffioedd rheoli ystadau ar rydd-ddeiliaid
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r arfer o godi ffioedd ar rydd-ddeiliaid am waith cynnal a chadw a gwasanaethau ar eu hystadau, ac mae'n galw ar bobl ledled Cymru i rannu eu profiadau.
5 peth nad oeddech chi o bosib yn ei wybod am y cysylltiadau rhwng Cymru â’r Almaen
Yr wythnos nesaf bydd Dr Peter Wittig, Llysgennad yr Almaen yn y DU, yn ymweld â Chymru ac yn mynd ar daith o amgylch cwmnïau o’r Almaen sy’n gweithio yng Nghymru. Bydd hefyd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog ac Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Cyn i Dr Wittig ymweld, rydym wedi llunio rhestr sydyn o rai o’r pethau sy’n cysylltu Cymru â’r Almaen.
Cyfnod newydd arall i Gastell Coety wrth i waith cadwraeth ddechrau y gwanwyn hwn
Mae’n fis Chwefror ac mae prosiect cadwraeth enfawr yn dechrau yng Nghastell Coety, fydd yn sicrhau bod y castell yn parhau i fod wrth galon y gymuned am genedlaethau i ddod.