"Pob lwc Cymru" yng Nghwpan y Byd
“Pob lwc Wales” at the World Cup
"Rydych yn grŵp arbennig o chwaraewyr a hyfforddwyr gyda criw angerddol o gefnogwyr y tu ôl i chi. Pob lwc Cymru!"
Dyna'r neges gan Weinidogion Cymru heddiw wrth i Gymru baratoi i chwarae yn rownd derfynol gyntaf Cwpan y Byd FIFA mewn 64 o flynyddoedd.
Anfonodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden negeseuon pob lwc i'r tîm cyn eu gêm agoriadol yn erbyn Unol Daleithiau America yfory (dydd Llun 21 Tachwedd 2022).
Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford, a fydd yn mynd i'r gêm rhwng Cymru a'r UDA yn Qatar:
"Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd mewn mwy na 60 mlynedd. I lawer, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw weld tîm pêl-droed uwch y dynion yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn ystod eu hoes.
"Ry'n ni'n ffodus i gael ein cynrychioli gan grŵp arbennig o chwaraewyr dan arweinyddiaeth ysbrydoledig Rob Page.
"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n sylweddoli pa mor falch ydyn ni o'r tîm.
"Mae'r wlad gyfan y tu ôl iddyn nhw ac rydyn ni i gyd yn dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y twrnament. Pob lwc i chi."
Bydd cynulleidfa o tua pum biliwn o bobl yn gwylio Cwpan y Byd FIFA. Mae hyn yn rhoi cyfle prin i Gymru gyflwyno ein cenedl flaengar, ddeinamig i gynulleidfaoedd newydd ledled y byd.
Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn hyrwyddo Cymru yn UDA yfory gyda rhaglen lawn o ymrwymiadau yn y brifddinas, Washington DC.
Meddai:
"Wrth i Gymru gymryd ei lle haeddiannol ar dabl uchaf camp fwyaf y byd, dyma gyfle unigryw i Gymru ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae yn gyfle marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon pwysig ac rydyn ni’n benderfynol o fanteisio arno er budd pobl a busnesau ledled Cymru.
"Byddwn ni'n hybu Cymru agored, flaengar – cenedl sydd wedi'i hadeiladu ar waith teg, amrywiaeth, cynhwysiant a pharch.
"Bydd y gêm agoriadol yn erbyn UDA yn gwneud Cymru'n weladwy ar draws un o'n partneriaid masnachu a diwylliannol pwysicaf, a bydd y gêm yn erbyn Lloegr yn dangos yn glir y ffaith bod y DU yn cynnwys pedair cenedl wahanol iawn.
"Pob lwc Cymru!"
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu i greu gwaddol wrth i Gymru gymryd rhan yng Nghwpan y Byd. Mae'n buddsoddi £24m mewn cyfleusterau chwaraeon dros y tair blynedd nesaf.
Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
"Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd ymgyrch gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd mewn mwy na chwe degawd yn gadael gwaddol parhaol.
"Mae'r ymdeimlad o gyffro ynghylch cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd yn amlwg. Er mwyn manteisio ar yr ymdeimlad enfawr hwnnw o falchder a brwdfrydedd cenedlaethol, rydym yn dod â chefnogwyr at ei gilydd drwy'r Gronfa Cefnogi Partneriaid gwerth £1.8m.
"Bydd y buddsoddiad sylweddol rydyn ni'n ei wneud mewn cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau.
"Dylai y tîm Cymru hwn ymfalchïo'n fawr yn sgil y pleser y mae nhw eisoes wedi'i roi i gynifer o bobl. Mae'r berthynas mae'r tîm yma wedi'i meithrin gyda chefnogwyr Cymru yn rhywbeth gwirioneddol arbennig. Pob lwc Cymru!"