Newyddion

Canfuwyd 23 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Adam Price MS Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy-2 cropped

Gweinidog Cabinet yn croesawu 480 o swyddi newydd Airbus ym Mrychdyn.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw o 480 o swyddi newydd ar safle Airbus ym Mrychdyn.

Welsh Government

Fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru yn lleihau'r defnydd o ddiesel ac yn cryfhau diogeledd ynni

Mae dadansoddiad gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod fflyd cerbydau trydan sector cyhoeddus Cymru bellach yn osgoi cost flynyddol a fyddai wedi’i wario ar ddiesel o hyd at £3.7 miliwn (2.4 miliwn litr).

Welsh Government

Cwmnïau gemau o Gymru yn ceisio codi lefel yn y Tokyo Game Show

Mae naw cwmni gemau o Gymru ar fin manteisio i'r eithaf pan fyddant yn arddangos yn y Tokyo Game Show fel rhan o ymweliad cyntaf Cymru Greadigol â'r arddangosfa fyd-eang.

Cosine logo 1

Llywodraeth Cymru a Cosine yn cydweithio i gryfhau deallusrwydd artiffisial Cymraeg

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i gefnogi deallusrwydd artiffisial Cymraeg.
  • Nod hyn yw gwella technoleg i helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
Welsh Government

Llunio cynlluniau ar gyfer cwmni ynni glân newydd, sy’n eiddo i Gymru, er budd Cymru

  • Mae cynigion ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus newydd yn anelu at gadw manteision ein ffynonellau ynni toreithiog yng Nghymru.
  • Gallai helpu i ostwng costau ynni dros y tymor hwy.
  • Dywedodd y Gweinidog Ynni: “Ynni rhatach a glanach — o Gymru, i Gymru.”
Welsh Government

Strategaeth Ynni Genedlaethol i amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer ynni yng Nghymru

  • Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n mireinio ei dull ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol.
  • Bydd y Strategaeth yn nodi gweledigaeth ar gyfer sector ynni adnewyddadwy sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru.
Welsh Government

Cynllun grant ar gyfer arloesi a thechnoleg yn agor i sefydliadau yng Nghymru

  • Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o £50,000 i £250,000 i fuddsoddi mewn offer a thechnoleg newydd
  • Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, cefnogi twf hirdymor, ac annog prosiectau economi gylchol sy'n effeithlon o ran adnoddau
  • Mae ceisiadau nawr ar agor ac yn cau am 11:59pm ar 25 Medi 2026
Welsh Government

Gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf

  • Y Gweinidog yn cwrdd â'r sector ac eisiau bod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth 
  • Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch newidiadau i'r trothwy 182 diwrnod ac wedi ymrwymo i ddiwygio ardrethi busnes i helpu'r diwydiant
Welsh Government

Llywodraeth newydd Cymru yn cymeradwyo ei phrosiect ynni gwynt ar y môr cyntaf

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi cymeradwyo ei phrosiect ynni gwynt ar y môr mawr cyntaf, sy'n nodi carreg filltir bwysig i uchelgeisiau Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy. 

New Business Units at Beechwood Industrial Estate in Llandeilo-2

Unedau busnes newydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin

  • Pum uned fusnes ynni-effeithlon newydd wedi cael eu cwblhau yn Llandeilo
  • Prosiect ar y cyd gwerth £3 miliwn rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru
  • Unedau eraill ar gael i fusnesau eu rhentu
Welsh Government

Cymorth Llywodraeth Cymru yn galluogi busnes trydanol i ehangu a chreu 30 o swyddi

  • Busnes o Sir Gaerfyrddin i ehangu gyda chyllid Llywodraeth Cymru, gan greu 30 o swyddi dros bum mlynedd.
  • Mae'r prosiect yn rhan o gynlluniau ehangu uchelgeisiol sy’n cynnwys adeiladu pencadlys newydd.
  • Mae safle cyflogaeth Cross Hands, lle bydd y busnes yn cael ei ehangu, wedi’i ddatblygu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.