Newyddion

Canfuwyd 15 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2027-28: Llinell Dros Nos

Heddiw (dydd Mawrth 17 Tachwedd) bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-28.

Welsh Government

Cynllun i roi hwb i'r gyfran o'r gwariant cyhoeddus sy'n mynd i gyflenwyr yng Nghymru

Gallai cynigion i gynyddu'r gyfran o'r gwariant cyhoeddus sy'n mynd i gyflenwyr yng Nghymru helpu i greu degau o filoedd o swyddi yng Nghymru.

Welsh Government

Pleidlais i'w chynnal yn y Senedd ar wariant ychwanegol Llywodraeth Cymru

Ymhlith y buddsoddiadau sydd wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru mae:

  • £145m ychwanegol i helpu cleifion i gael eu gweld yn gyflymach gan y GIG
  • £55m i helpu cannoedd yn rhagor o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant a ariennir i'w plant dwy flwydd oed
  • £15m i sicrhau bod rhagor o ddisgyblion ysgol uwchradd sydd angen prydau ysgol am ddim yn gallu eu cael.
  • £60m ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Welsh Government

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Mewn ymateb i Gyllideb Llywodraeth y DU, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

Welsh Government

Oedi cyn ailbrisio’r dreth gyngor o ganlyniad i’r pwysau ar y gyllideb

  • Deddfwriaeth i gael ei chyflwyno i ohirio ymarfer ailbrisio’r dreth gyngor tan dymor y Senedd nesaf
  • Ffyrdd sydd wedi’u targedu’n fwy pwrpasol o wella’r system i gael eu hystyried
  • Y penderfyniad yn dilyn gwaith manwl dros yr haf i asesu’r gost o gefnogi rhai aelwydydd drwy’r cyfnod pontio
Welsh Government

Dod i gytundeb ar y Gyllideb Atodol

  • Llywodraeth Cymru yn dod i gytundeb â Llafur Cymru ar fuddsoddiad pellach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan olygu bod modd bwrw ati â’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2026-27.
  • £60 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer ADY, fel rhan o becyn buddsoddi ehangach a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mehefin.
  • Y Gyllideb Atodol i gael ei gosod gerbron y Senedd ddydd Mawrth 13 Hydref a dadl i gael ei chynnal arni ar 3 Tachwedd.
Welsh Government

Y Gweinidog Cyllid i arwain y ddadl dros gyllid tecach a chyflwyno buddsoddiad yn y rheilffyrdd

  • Bydd Aelodau'r Senedd yn trafod cynnig trawsbleidiol sy'n galw am gyflymu buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru a rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i Weinidogion Cymru.
  • Mae'r cynnig yn galw am ddileu'r cyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru, gwelliannau i’r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu, a chyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU o £14 biliwn i reilffyrdd Cymru.
  • Mae'r Gweinidog Cyllid, Elin Jones, yn dweud y bydd cydweithio i wneud yr achos dros gyllid tecach a chyflawni cyflymach yn helpu i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed.

 

Elin Jones portrait

Rhaid i Gyllideb y DU gyflawni ei haddewidion ar reilffyrdd Cymru

  • Mae Llywodraeth Cymru yn annog y Canghellor i gyflymu'r broses o gyflawni'r addewid gwerth £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd, gan fod y cyllid presennol yn cyfrif am ddim ond 1% o wariant Network Rail ledled Cymru a Lloegr.
  • Mae'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones, hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ar gostau byw, gwariant cyhoeddus a buddsoddiad yng Nghymru cyn Cyllideb yr Hydref.
  • Dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Mae Cymru wedi aros yn ddigon hir. Dyma gyfle Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos ei bod o ddifrif am wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."
Welsh Government

Gweinidog Cyllid Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid tecach mewn uwchgynhadledd yng Nghaerdydd

  • Llywodraeth Cymru i groesawu gweinidogion cyllid o bob cwr o'r DU i Gaerdydd
  • Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones, i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygio cyllidol, gan gynnwys adolygiad ffurfiol o Fframwaith Cyllidol Cymru 2016.
  • Dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Dyw'r ffordd mae ein cyllid yn cael ei gyfrifo ddim wedi cadw i fyny â gwir anghenion pobl yma. Mae'r system yn hen ffasiwn a dyw e ddim yn ddigon tryloyw. Rhaid i hynny newid."
Welsh Government

Gostyngiad o 30% yn yr ardrethi busnes i leoliadau lletygarwch a hamdden ar y stryd fawr

  • Bydd amrywiaeth eang o leoliadau ledled Cymru yn gweld eu biliau ardrethi busnes yn gostwng 30% o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
  • Bydd busnesau bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000 yn elwa, gyda'r newid yn cael ei ariannu'n llawn.
  • Y Prif Weinidog: Bydd hyn yn rhoi'r hyder i fusnesau "fuddsoddi, tyfu a pharhau i wasanaethu'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw."
Welsh Government

Cymru’n ymrwymo i ddegawd o ryddhad ardrethi i sbarduno’r seilwaith gwefru cerbydau trydan

Bydd baeau a blaengyrtiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru yn elwa ar ryddhad ardrethi annomestig llawn nes 2036.