Newyddion
Canfuwyd 15 eitem, yn dangos tudalen 2 o 2
Technolegau arloesol yn creu cartrefi cynhesach fforddiadwy
Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, ar ymweliad â datblygiad tai cymdeithasol carbon isel yng Nghaerdydd.
Arbed y drafferth, lesiwch eich eiddo
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn cael lesio’ch eiddo i’ch awdurdod lleol a chael gwarant o incwm rhent?
Mae Cynllun Lesio Cymru, cynllun dan ofal Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchenogion tai gwag lesio’u heiddo i’r awdurdod lleol am 5 i 20 mlynedd.
Mae’r cynllun yn gwarantu incwm rhent bob mis ichi a hefyd bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth rheoli llawn heb ichi orfod talu comisiwn.
Mae hynny’n golygu na fydd perchenogion yn mynd am gyfnodau heb rent pan fydd yr eiddo’n wag na chwaith yn gorfod delio â rhent ddyledus. Bydd yr incwm rhent, ar lefel y lwfans tai lleol, wedi’i warantu.
Hefyd, efallai y bydd grant o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu’r eiddo a hyd at £5,000 ar ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol.
Bydd tenantiaid yn elwa hefyd, gyda chymorth wedi’i warantu am oes y les.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Rydyn ni’n gwybod bod tai gwag yn wastraff ar adnoddau yn ein cymunedau ac mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o wneud cartrefi’n fwy fforddiadwy a hygyrch.
“Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y gall perchnogion eiddo a landlordiaid gael eu cefnogi drwy’r cynllun i ddarparu cartrefi diogel, hirdymor a fforddiadwy i denantiaid.”
DIWEDD
Mwy o gartrefi, systemau ymyrraeth gynnar a chymorth sy'n allweddol i roi diwedd ar ddigartrefedd
Mewn araith a roddwyd yn y Senedd, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, i'r afael â'r sefyllfa bresennol yng Nghymru ym maes tai a chynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd.