English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2674 eitem, yn dangos tudalen 187 o 223

Welsh Government

£4m ar gael i safleoedd Natura 2000 i helpu Cymru i warchod cynefinoedd hanfodol a rhywogaethau dan fygythiad

Mae cynllun grant gwerth o leiaf £4m wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7) er mwyn helpu i wella safleoedd o arwyddocâd naturiol ledled Cymru, gan gefnogi rheolwyr tir, elusennau a chymunedau i fwrw ymlaen â’u gwaith hanfodol a chyfrannu at adferiad y genedl o Covid-19.

Welsh Government

Fforwm Adeiladu â’r nod o Ailgodi’n Gryfach

Bydd fforwm adeiladu newydd â’r nod o helpu Cymru i ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig coronafeirws yn cwrdd am y tro cyntaf heddiw.

Welsh Government

Cyllid ychwanegol i gefnogi plant dros wyliau’r haf yng Nghymru

Heddiw (dydd Llun 6 Gorffennaf), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y caiff £2.6m o gyllid ychwanegol ei fuddsoddi i gefnogi plant ledled Cymru yn ystod gwyliau’r haf.

Welsh Government

Gohirio’r broses o gategoreiddio ysgolion y flwyddyn nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn gohirio’r broses o gategoreiddio ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, fel rhan o'i mesurau i leihau'r pwysau ar ysgolion yn ystod y pandemig Covid-19.

Welsh Government

Black Lives Matter: Prif Weinidog Cymru’n cyhoeddi archwiliad o gerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi gorchymyn archwiliad brys o gerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau i fynd i’r afael â chysylltiadau Cymru gyda’r fasnach mewn caethweision.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn gofyn i bobl fod yn ddiogel wrth ymweld â Chymru

Wrth i fannau agored Cymru baratoi i groesawu ymwelwyr o ddydd Llun ymlaen, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn pwyso ar bobl fydd yn ymweld â chefn gwlad, traethau a mannau hardd Cymru i fod yn ddiogel.

Welsh Government

Gweinidog yn diolch i weithwyr allweddol cyn penblwydd GIG

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi ysgrifennu llythyr agored ar drothwy pen-blwydd y GIG yn 72nd, yn myfyrio ar y pandemig coronafeirws yng Nghymru.

Welsh Government

Cynllun Brys ar gyfer Bysiau i sicrhau dyfodol y diwydiant

Bydd gweithredwyr bysiau ar draws Cymru yn cael eu hachub gan becyn cyllido pellach gan Lywodraeth Cymru. Bydd diwydiant bysiau Cymru yn cael ei ariannu drwy Gynllun Brys newydd ar gyfer Bysiau. Am fod llawer o weithredwyr wedi colli refeniw yn ystod pandemig y coronafeirws, byddant yn cael cymorth ariannol drwy’r cynllun hwn yn gyfnewid am fwy o reolaeth gyhoeddus dros ein bysiau.

Welsh Government

Y rheol ‘aros yn lleol’ yn dod i ben yng Nghymru

Bydd yr angen i aros yn lleol yn Nghymru yn dod i ben ar 6 Gorffennaf. Cadarnhawyd hynny heddiw (dydd Gwener 3 Gorffennaf) gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Welsh Government

Bydd y rheol ar aros yn lleol yn dod i ben yng Nghymru ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau hynny heddiw (dydd Gwener 3 Gorffennaf).

Welsh Government

Cynllun £30 miliwn yr A55 yn symud ymlaen

          Mae cynllun gwelliant gwerth £30 miliwn Aber Tai’r Meibion yn symud ymlaen, gyda mesurau diogelwch mewn llaw i ganiatáu i’r gwaith ddechrau pe byddai cyfyngiadau Covid-19 yn parhau pan fydd yr adeiladu’n digwydd. 

coronafeirws

Amserlen ar gyfer ailagor sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn raddol

Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf ymlaen, mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi heddiw.