Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 186 o 320
Cwmni Adnoddau Addysg Dwyieithog yn cael ei greu gan Gymru, i Gymru
Ar Ddiwrnod y Llyfr mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cwmni adnoddau addysg dwyieithog. Bydd y fenter newydd yn sicrhau bod amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru newydd.
Ehangu'r Cynnig Gofal Plant gan roi rhagor o gyllid i ddarparwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i gynnwys rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu.
Cenhedloedd datganoledig yn beirniadu cynlluniau annerbyniol a diangen Llywodraeth y DU i ollwng y Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi disgrifio cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau fel ymosodiad ar ryddid pobl ar sail ideoleg.
Rheolau treth newydd ar gyfer ail gartrefi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i bremiymau’r dreth gyngor ar y lefel uchaf y gellir ei defnyddio ar gyfer ail gartrefi, gan gynnwys rheolau treth lleol newydd ar gyfer llety gwyliau.
Prif Weinidog Cymru yn trafod y sefyllfa yn Wcráin tra ym Mrwsel ar gyfer ymweliad Dydd Gŵyl Dewi
Bydd y sefyllfa yn Wcráin ar frig yr agenda wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Brwsel Ddydd Mercher ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda diplomyddion a seneddwyr.
Y goreuon o sector technoleg Cymru i gael eu harddangos yn Expo 2020 Dubai
Prif sefydliadau technoleg a seiber Cymru i gyflwyno Uwchgynhadledd Technoleg ar 1 Mawrth, gyda dirprwyaeth yn ymuno â'r digwyddiad er mwyn chwilio am gyfleoedd masnach
Cyllideb Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb tair blynedd i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur a gwella cyfleoedd addysgol.
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi cymorth gwerth £4m i Wcráin
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i gefnogi’r rheini sydd mewn gwir angen.
“Rydyn ni am sicrhau bod Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol” - Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Bydd plant a phobl ifanc wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir, wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan sut y bydd yn sicrhau bod Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo.
Prosiectau mawr newydd yn cael eu cyhoeddi i helpu twf yr iaith Gymraeg
- 11 o brosiectau cyfalaf ledled Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg
- £1.2m i roi cymorth i’r Urdd ar ôl y pandemig.
Neges Dydd Gwyl Dewi Prif Weinidog Cymru - 2022
Neges Prif Weinidog Cymru i bobol Cymry ar Ddydd Gwyl Dewi
Hwb o £13m ar gyfer cynllun newydd i leihau ac atal gordewdra yng Nghymru
Gyda chefnogaeth o fuddsoddiad gwerth £13m, bydd lleihau anghydraddoldebau yn rhan ganolog o Gynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach.