Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 181 o 248
£31m o gyllid hanfodol yn cael ei sicrhau gan y Gweinidog Cyllid i wneud gwaith atgyweirio yn dilyn llifogydd
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi dweud ei bod wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU ar gyllid gwerth £31m i gefnogi gwaith atgyweirio hanfodol yn dilyn llifogydd yng Nghymru.
Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' [copy]
Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.
Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn mynd yn fyw
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Adroddiad newydd ar integreiddio dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol
Bob blwyddyn ar 10 Rhagfyr, mae Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dathlu'r diwrnod y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Llywodraeth Cymru yn cyrraedd targed o 100,000 o brentisiaethau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed yn ystod tymor y Senedd hon.
Lleihau cyfnod Coronafeirws a hunan-ynysu i ddeng niwrnod yng Nghymru
O ddydd Iau Rhagfyr 10fed bydd yr amser y mae’n rhaid i bobl hunan-ynysu yn cael ei leihau o 14 niwrnod i ddeg yng Nghymru.
Gweinidog yn cadarnhau cadeirydd newydd i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi bod Deep Sagar wedi’i benodi yn gadeirydd annibynnol newydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, i ddechrau ar 1 Ionawr 2021.
Dechrau cyflwyno brechlynnau COVID-19 yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn COVID-19 cyntaf yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru o heddiw (Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020).
Cynllunio ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd
- Dychwelyd mewn ffordd sy’n cael ei rheoli dros gyfnod o 4-5 wythnos, gan gychwyn ar 11 Ionawr
- Bydd y rhaglen profion llif unffordd yn ailgychwyn, er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd i’w llety yn ystod y tymor a dysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel o fis Ionawr
- Gofyn i fyfyrwyr gymryd dau brawf dros gyfnod o dri diwrnod, neu leihau eu cysylltiadau a pheidio cymysgu am 14 diwrnod pan fyddant yn dychwelyd.
Cynllun taliadau £500 yn awr ar gael i rieni a gofalwyr plant sy’n gorfod hunanynysu
Bydd rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys i gael taliad cymorth o £500.
Diweddariad ar gynlluniau wrth gefn Caergybi wrth i derfyn amser yr UE agosáu
Mae cynlluniau wrth gefn wedi'u diweddaru sydd â'r nod o darfu cyn lleied â phosibl ar Borthladd Caergybi pan fydd cyfnod Pontio'r UE yn dod i ben ar 31 Rhagfyr wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.