Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 179 o 248
£110m yn ychwanegol i helpu busnesau fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd
Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo £110 miliwn yn ychwanegol i helpu’r busnesau fydd yn dod o dan y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a ddaw i rym pan fydd siopau’n cau ar Noswyl y Nadolig.
‘Estynnwch allan a gofyn am gymorth os ydych yn cael anhawster â’ch iechyd meddwl dros y Nadolig’ – meddai’r Gweinidog Iechyd Meddwl ar ôl cwrdd â’r Samariaid
Mae angen i bobl sy’n cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig wybod bod cymorth ar ben arall y ffôn. Dyna neges y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan ar ôl iddi gwrdd â Samariaid Cymru.
Un o Weinidogion Cymru yn rhybuddio San Steffan ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Mudwyr
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ddathlu’r cyfraniad y mae mudwyr wedi’i wneud i Gymru, a rhybuddio’r Ysgrifennydd Gwladol i gau’r lloches yng ngwersyll Penalun, neu beryglu niweidio enw da rhyngwladol y DU.
RHAGFLAS DAN EMBARGO: 00.01 Dydd Gwener 18 Rhagfyr
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf, sy’n dechrau dod i rym o ddiwedd masnachu ar Noswyl Nadolig.
Disgyblion yn holi’r Prif Weinidog am ei gynlluniau ar gyfer y Nadolig
Mewn cynhadledd arbennig i'r wasg ar gyfer y Nadolig, cafodd disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru gyfle i holi'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
“Bydd y pod yn ein gwneud yn rhan o'r gymuned eto" – dosbarthu’r 'podiau ymweld' cyntaf i gartrefi gofal Cymru
Mae’r “podiau ymweld” cyntaf sy’n darparu gofod ymweld ychwanegol mewn cartrefi gofal wedi'u dosbarthu yr wythnos hon.
Llywodraeth Cymru yn croesawu cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar osod targed sero net i Gymru – ond "mae angen i bawb chwarae’u rhan" er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur
Heddiw [dydd Iau, 17 Rhagfyr], mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer Cymru, ynghyd â chyngor ar lwybr allyriadau Cymru hyd at 2050, gan gadarnhau am y tro cyntaf fod gan Gymru lwybr credadwy, dichonadwy a fforddiadwy er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.
Bargen Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr
Mae Bargeinion Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr dros y dyddiau nesaf, fydd yn golygu y bydd pob rhanbarth o Gymru yn cael eu cynnwys o fewn bargen twf.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn egluro ymhellach y system i ddisodli arholiadau cymwysterau cyffredinol yn 2021
Heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 16), rhannodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fanylion pellach am y cyfeiriad polisi ynghylch sut y bydd y system i ddisodli arholiadau cymwysterau cyffredinol yn 2021 yn gweithio.
Datgelu’r weledigaeth tymor hir ar gyfer sector ffermio cynaliadwy yng Nghymru
Cafodd gweledigaeth ar gyfer y 15 i 20 mlynedd nesaf i greu sector amaethyddol cynaliadwy er lles cenedlaethau’r dyfodol ei datgelu heddiw (Mercher, 16 Rhagfyr) gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Adroddiad newydd Llywodraeth Cymru yn canmol partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr am ymateb yn gyflym i Covid-19
Llwyddodd awdurdodau lleol a’r trydydd sector i ymateb yn gyflym i roi cymorth i bobl mwyaf agored i niwed ac ynysig Cymru yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.