Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 175 o 320
Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru.
Cyffro ar gyfer Diwrnod Gwenyn y Byd
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi ymweld â chynhyrchydd mêl arobryn yn Llanfair-ym-Muallt i ddathlu Diwrnod Gwenyn y Byd heddiw (Dydd Gwener, 20 Mai).
Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Mai).
Gwaith i wella gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cyflymu
Mae gwasanaethau newydd yn cael eu datblygu i wella mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ledled Cymru fel bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Dros £750,000 ar gyfer llyfrgelloedd, amgueddfeydd yng Nghymru
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd i gyhoeddi cyllid gwerth ychydig dros £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.
Cyhoeddi adolygiad annibynnol o lifogydd i helpu Cymru i addasu i newid hinsawdd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 wedi'i lansio.
£182m i gefnogi byw’n annibynnol a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
“Mae cael cartref addas a fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant pawb.”
Treblu cyllid addysg gerddoriaeth i £13.5m
Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddoriaeth fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a fydd yn helpu i sicrhau nad yw un plentyn ar ei golled oherwydd diffyg arian.
Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gymryd lle rhaglenni a ariennir gan yr UE i gefnogi pobl sydd â rhwystrau cymhleth i ddod o hyd i waith
- Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid i ddisodli cyllid yr UE yn llawn drwy'r Gronfa Ffyniant a Rennir.
- Rhaglen Cymru gyfan wedi ei hehangu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i'w lansio ym mis Ebrill 2023.
- Estynnwyd dau gynllun presennol a ariennir gan yr UE am flwyddyn ychwanegol er mwyn sicrhau pontio llyfn.
Twristiaeth a lletygarwch: sector gwych i weithio ynddo, sy'n helpu i greu profiadau pwysig – Vaughan Gething Gweinidog yr Economi
"Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector gwych i weithio ynddo" – dyna neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, i nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 (15 – 22 Mai).
Y Gweinidog Iechyd yn annog pobl i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn cyn y dyddiad cau
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi annog y holl sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu Covid-19 y gwanwyn i fanteisio ar y cynnig cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin.