English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 172 o 248

Welsh Government

Rhagor o fanylion am £200 miliwn i gefnogi busnesau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu rhagor o fanylion am y pecyn cymorth gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, ac ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n parhau i gael eu heffeithio gan bandemig Covid-19.

FM Presser Camera 2

“Paratoi i ailagor ysgolion yn raddol ac yn hyblyg os bydd achosion y coronafeirws yn parhau i ostwng” – Prif Weinidog Cymru

Mae’n bosibl y bydd plant ieuengaf Cymru yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau hanner tymor Chwefror, os bydd cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Dyna mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi’i gyhoeddi heddiw.

Welsh Government

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig COVID-19

Yr angen i fabwysiadu dull unedig o ymateb i faterion iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol, i ganolbwyntio mwy ar arloesi a phwysigrwydd buddsoddi mewn trefniadau diogelu iechyd – dyma rai o’r gwersi a ddysgwyd o don gyntaf y pandemig COVID-19 yng Nghymru, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol.

Welsh Government

Gofyn i bobl lywio dyfodol y gweithle yng Nghymru

Yn fuan bydd pobl yng Nghymru yn gallu awgrymu lleoedd yn eu cymunedau lle yr hoffent weithio, fel rhan o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i gael tua 30% o’r gweithlu’n gweithio gartref neu’n gweithio o bell.

Welsh Government

Cyhoeddi strategaeth brofi ddiweddaraf COVID-19 ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd y strategaeth brofi coronafeirws ddiwygiedig heddiw (dydd Iau 28 Ionawr) gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Welsh Government

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun wrth Gefn Porthladd Caergybi

          Bydd cynlluniau wrth gefn a roddwyd ar waith i ddiogelu porthladd a chymuned Caergybi yn cael eu haddasu'n raddol dros y mis nesaf, yn dilyn cyfnod adolygu a chwblhau safle stacio ar Barc Cybi

Welsh Government

Bwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru ddi-sbwriel a di-dipio

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn galw ar bawb i “chwarae eu rhan” i gael gwared ar sbwriel a thipio anghyfreithlon o ddinasoedd, moroedd a chefn gwlad Cymru.

Welsh Government

Trelar Dan Embargo: Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth brofi wedi'i diweddaru

Heddiw (dydd Iau 28 Ionawr), bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi strategaeth brofi ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

YH campaign 1-2

"Dyw hi byth yn rhy hwyr nac yn rhy gynnar i gael help" – mae ymgyrch atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn targedu'r rhai sy'n ei chael hi’n anodd oherwydd Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch sy’n annog pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd eisoes yn ddigartref i ffonio Llinell Gymorth Cyngor ar Dai Shelter Cymru a Llamau, sy’n rhad ac am ddim.

Welsh Government

Cadarnhau ffliw adar mewn ffesantod mewn eiddo ar Ynys Môn

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau Ffliw Adar H5N8 mewn ffesantod ar Ynys Môn.

Welsh Government

Cymorth llifogydd gwerth £6.5m i gymunedau Cymru

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £6.5 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol a phobl y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn ystod cyfyngiadau symud Lefel Rhybudd 4.