Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 168 o 248
£1.3m i helpu’r Urdd “ddod ato’i hun ac ailadeiladu”
Heddiw, (dydd Mercher, 17 Chwefror) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £1.3m i helpu’r Urdd i ailadeiladu a dod ato’i hun ar ôl pandemig y Coronafeirws.
Y Meini Prawf ar gyfer Taliad Cymorth Hunanynysu yn cael eu hymestyn
Bellach bydd mwy o bobl yn gymwys i wneud cais am y Taliad Cymorth Hunanynysu o £500, yn ôl cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Gweinidog yn diolch i’n cymunedau caredig ar Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell
A hithau’n Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell, anfonodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, neges o ddiolch at y miloedd o wirfoddolwyr a’r cynorthwywyr cymunedol yng Nghymru, sydd wedi dangos caredigrwydd wrth bobl sydd mewn angen yn ystod pandemig Covid-19.
Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw cynhadledd diogelwch pyllau glo gyntaf yn dilyn ffrwydrad pwll glo Sgiwen
Trefnodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynhadleddd diogelwch pyllau glo heddiw i fynd i'r afael â diogelwch ac effeithiau amgylcheddol pyllau glo segur Cymru, ar ôl i siafft ffrwydro yn Sgiwen ac achosi llifogydd trychinebus fis diwethaf.
£15 miliwn ar gyfer technoleg addysg mewn ysgolion y flwyddyn nesaf
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn ychwanegol mewn technoleg addysgol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyllid gwerth £21.5 miliwn ar gyfer atgyweirio difrod llifogydd i bontydd a llwybrau bordiau
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £21.5 miliwn i helpu cynghorau ledled y wlad i atgyweirio difrod llifogydd i ffyrdd, pontydd a llwybrau bordiau.
Safleoedd Amlwch i ddod yn rhan o Ardal Fenter Ynys Môn
Bydd dau safle yn Amlwch yn ymuno ag Ardal Fenter Ynys Môn gan helpu i ysgogi'r economi a chefnogi swyddi yng ngogledd yr ynys, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw.
Cyllid ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn y dyfodol: Cyfle i ddweud eich dweud
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, fod ymgynghoriad chwech wythnos i gael ei lansio i natur a chylch gwaith Rhaglen Gyllid Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Gweinidog yn falch o weld cwmni Canolbarth Cymru yn tyfu
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi llongyfarch y cwmni electroneg o'r Drenewydd Control Techniques ar ôl iddo symud yr holl gynhyrchiant o Tsieina i'w brif safle gweithgynhyrchu yng Nghymru a chreu 44 o swyddi newydd.
Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £10m mewn 84 o ambiwlansys newydd
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cael 84 o gerbydau gweithredol newydd, diolch i fuddsoddiad o £10.9M gan Lywodraeth Cymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Ffioedd gwasanaeth a godir gan rai cymdeithasau tai a sefydliadau trydydd sector ar denantiaethau byrddaliadol sicr
Byddwch am fod yn ymwybodol bod Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig:
Llywodraeth Cymru yn gofyn - ble yr hoffech weithio yn y dyfodol?
Os allech chi weithio ar ddesg mewn hyb gyda phobl eraill yn nes at eich cartref ble hoffech chi fod?