Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 178 o 248
Profi cyfresol i gael ei dreialu gan Heddlu De Cymru
Mae cynllun peilot pedair wythnos ar gyfer profion cyfresol asymptomatig gyda Heddlu De Cymru wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd.
Y gronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol i warchod 257 o swyddi gyda cwmni o Bontypŵl
Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod 257 o swyddi gyda cwmni gweithgynhyrchu rhannau ceir ym Mhontypŵl.
Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m yn cyrraedd carreg filltir allweddol
Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau’r Telerau
"Ar drothwy’r Nadolig, gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am yr hyn y ‘dylech’ ei wneud, yn hytrach na’r hyn y ‘cewch’ ei wneud."
Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi neges i bobl Cymru cyn y Nadolig.
Y Gweinidog yn cyhoeddi Setliad Cyllid Llywodraeth Leol gwerth £6.3 biliwn
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi y bydd cynghorau yng Nghymru yn derbyn £6.3 biliwn mewn cyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Carreg filltir fawr ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wrth i’r gwaith ar y draphont ddechrau
Mae’r fenter ar y cyd sydd yn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi cyrraedd carreg filltir fawr, wrth i’r gwaith dur gael ei godi ar ddec y ddwy draphont sy’n rhan allweddol o’r cynllun.
“Gall unrhyw un deimlo’n unig” meddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru, “ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael.”
Mae canfyddiadau newydd Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar unigrwydd yn cadarnhau bod cysylltiad cryf rhwng unigrwydd a pha mor hapus y mae rhywun, a bod pobl sy’n unig lawer yn llai bodlon â’u bywyd.
Cyllideb i ddiogelu iechyd a swyddi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal.
Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft i Gymru sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi £420m yn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â chyllid i ddiogelu’r economi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal.
Llywodraeth Cymru a’r heddlu yn uno i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol y Nadolig hwn
Ni fydd cam-drin domestig a thrais rhywiol yn diflannu dros gyfnod yr ŵyl.
Diogelu, Adeiladu, Newid: Cyllideb newydd i Gymru
Heddiw [dydd Llun 21 Rhagfyr], bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft a gynlluniwyd i ddiogelu'r Gwasanaeth Iechyd a'r economi, i adeiladu dyfodol gwyrddach ac i greu newid i sicrhau Cymru fwy cyfartal.
Gwaith ar ffyrdd Cymru i gael ei glirio i hwyluso teithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Bydd prosiectau’n cael eu cwblhau neu’n cael eu hatal dros dro ar hyd yr A55, yr M4 a phob cefnffordd fawr yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, ac eithrio sefyllfaoedd brys nad ydynt wedi cael eu trefnu ymlaen llaw.
Paratoi ar gyfer oedi posibl yng Nghaergybi
Mae arwyddion wedi’u rhoi yn eu lle heddiw [dydd Gwener, 18 Rhagfyr] i gynghori gyrwyr o oedi posibl ar yr A55 yng Nghaergybi o 1 Ionawr pan fydd y cyfnod pontio yn dod i ben.