Newyddion
Canfuwyd 23 eitem, yn dangos tudalen 2 o 2

Cynnig cynlluniau peilot ar gofrestru etholwyr yn awtomatig yng Nghymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion i gynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio mewn etholiadau, gan gynnwys cynlluniau peilot ar gofrestru etholwyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

“Angen newid cyfeiriad o ran cyfiawnder” – Y Cwnsler Cyffredinol
Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn galw ar i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ailosod ei pherthynas â’r sector cyfreithiol.

Pryder bod deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU yn cipio pwerau
Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â Bil newydd a allai olygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd.

Llywodraeth Cymru yn amlinellu egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddiwygiedig
Mae Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi amlinellu elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig, ac wedi rhybuddio bod y system bresennol sy’n cael ei rhedeg gan San Steffan yn “cyfyngu’n sylweddol” ar fynediad at gyfiawnder.

Sicrhau consesiynau i Fil Etholiadau'r DU er mwyn gwneud yn siŵr bod etholiadau yn agored a hygyrch yng Nghymru
Wrth i'r Senedd baratoi i bleidleisio ar hynt Bil Etholiadau Llywodraeth y DU, cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i etholiadau agored ac i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr ei bwysleisio unwaith eto gan Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol.

Cenhedloedd datganoledig yn beirniadu cynlluniau annerbyniol a diangen Llywodraeth y DU i ollwng y Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi disgrifio cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau fel ymosodiad ar ryddid pobl ar sail ideoleg.

Angen gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng cymorth cyfreithiol
Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU gefnogi diwygiadau i gymorth cyfreithiol er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mynegi pryderon am ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi “pryderon gwirioneddol” am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau.

Pobl ifanc i bleidleisio ar ôl gwersi fel rhan o gynlluniau treialu ar gyfer etholiadau
Bydd rhai myfyrwyr yn gallu pleidleisio yn eu coleg yn etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf, fel rhan o ymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio.

Penodi’r Arglwydd Lloyd-Jones yn Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru
Yr Arglwydd Lloyd-Jones, un o Farnwyr Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, fydd Llywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru.

Symleiddio cyfraith cynllunio a'r amgylchedd hanesyddol fel rhan o raglen gan Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch
Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, wedi lansio rhaglen newydd i geisio sicrhau bod cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.