Newyddion
Canfuwyd 58 eitem, yn dangos tudalen 2 o 5

Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn gweld "cynnydd rhyfeddol" yng Nghwmtyleri
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, wedi ailymweld â Chwmtyleri i gyfarfod â thrigolion a gweld hynt y gwaith adfer ers y tirlithriad sylweddol mewn tomen lo segur a ddigwyddodd yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024.

Manteisio ar y Bysgodfa gyntaf yng Nghymru ar gyfer Tiwna Asgell Las
Pysgota o'r radd flaenaf ar arfordir gorllewin Cymru.

Wystrys brodorol Sir Benfro.
Pontŵn Iard Gychod Rudder yn Aberdaugleddau yw'r safle ar gyfer gwesty wystrys brodorol - sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad yn nifer yr wystrys brodorol.

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni ansawdd dŵr yn y dyfodol
Mae £16m ychwanegol wedi'i gyhoeddi i fynd i'r afael â materion sy'n bygwth ansawdd dŵr Cymru.

Cymru'n arbed £1m drwy drwsio nid gwario
Mae caffis trwsio sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn helpu pobl, natur a'n hinsawdd drwy drwsio dros 21,000 o eitemau am ddim, gan arbed arian a lleihau gwastraff. Mae wedi cyrraedd carreg filltir ryfeddol gan arbed dros £1m i bobl mewn gwaith trwsio am ddim.

Dweud eich dweud ar strategaeth newydd Cymru ar gyfer pren
Gyda'r galw byd-eang am bren yn debygol o gynyddu bedair gwaith erbyn 2050, sut y gall Cymru elwa ar y twf disgwyliedig gan ddiogelu, ar yr un pryd, ei choedwigoedd at y dyfodol?

Naw ffordd y defnyddiwyd £150m i adfer natur yn ystod tymor y Senedd hon
Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer a chryfhau cysylltiad pobl â natur.

Galw am wyliadwriaeth yn dilyn achos o Glwy'r Traed a'r Genau yn yr Almaen
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, yn annog perchnogion da byw yng Nghymru i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn achos diweddar o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen.

Dros £20m i helpu prifysgolion i fynd i'r afael â newid hinsawdd Bydd cyllid benthyciad yn helpu prifysgolion i gyrraedd uchelgeisiau carbon isel
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, â Phrifysgol Caerdydd i weld sut mae buddsoddiad o £12.2m yn cyflymu eu camau tuag at leihau carbon.

Mwy na 2,500 o wirfoddolwyr yn cael cymorth bob mis oddi wrth Cadwch Gymru'n Daclus i wella'r amgylchedd yn lleol, diolch i gyllid gwerth £1.2 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru
Bydd dros £1.2 miliwn o arian grant yn helpu i fynd i'r afael â sbwriel ledled Cymru ac i lanhau'n strydoedd.

Mae £1.4 miliwn bellach ar gael ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
Mae dros £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru.

Bydd cyllid ychwanegol yn helpu i adfer yr hyn sy'n cyfateb i 266 cae rygbi o forwellt Cymru
Bydd cyllid ychwanegol a gadarnhawyd heddiw yn cefnogi adferiad yr hyn sy'n cyfateb i 266 cae rygbi o forwellt erbyn 2030.