Newyddion

Canfuwyd 137 eitem, yn dangos tudalen 8 o 12

Welsh Government

Adfywiad Afon: Y Dirprwy Brif Weinidog yn dechrau Prosiect Adfer Gwy Uchaf

Aeth y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ar ymweliad â Phrosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf sy'n ceisio adfywio dalgylch uchaf yr afon, sy'n gartref i sawl rhywogaeth bwysig fel eog yr Iwerydd, dyfrgwn, gwangod, cimwch crafanc gwyn, a chrafang-y-fran.

River Wye, Visit Wales, Crown Copyright-2

Llywodraeth Cymru a'r DU yn uno mewn cronfa gwerth £1 Miliwn i drawsnewid Afon Gwy

  • Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Dŵr Emma Hardy yn cynnal bwrdd crwn yn Afon Gwy i gychwyn camau i fynd i'r afael â llygredd lleol
  • Llywodraethau'r DU a Chymru yn cyhoeddi cronfa ymchwil gwerth £1m i fynd i'r afael â llygredd yn yr afon eiconig
  • Afon Gwy yw'r ymweliad diweddaraf ar daith Ysgrifennydd yr Amgylchedd a'r Gweinidog Dŵr ledled y DU i weld sut mae buddsoddi mewn dŵr yn sail i Gynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a'r DU wedi cyhoeddi menter ymchwil ar y cyd newydd gwerth £1 miliwn i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr yn Afon Gwy.
net check-2

Pysgotwyr anghyfreithlon mewn dyfroedd dyfnion

Mae pum cwmni pysgota o Wlad Belg a chapteiniaid y llongau wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus am dorri deddfwriaeth pysgodfeydd yn ddifrifol yn nyfroedd Cymru, gan nodi'r llwyddiant diweddaraf wrth i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â gweithgarwch pysgota anghyfreithlon.

Welsh Government

Eco-Ysgol o'r haen uchaf yn helpu natur i ffynnu

Mae ysgol yng Ngheredigion wedi cael ei chydnabod gan y Dirprwy Brif Weinidog am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Welsh Government

Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo trwydded brechlynnau y Tafod Glas at ddefnydd gwirfoddol

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i drwyddedu tri brechlyn y Tafod Glas (BTV-3) i'w defnyddio mewn argyfyngau ledled Cymru.

Welsh Government

Cymru'n symud i wahardd rasio milgwn

Heddiw [dydd Mawrth, 18 Chwefror] dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies mai nawr yw’r adeg gywir i symud i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Welsh Government

Cwrdd â'r sefydliad sy'n troi bwyd dros ben yn gymorth i'r rhai mewn angen

Bob blwyddyn mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng Nghymru a phe bai dim ond un y cant ohono yn cael ei arbed, gallai gael ei ddefnyddio i ddarparu dros naw miliwn o brydau bwyd.

Welsh Government

Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn gweld "cynnydd rhyfeddol" yng Nghwmtyleri

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, wedi ailymweld â Chwmtyleri i gyfarfod â thrigolion a gweld hynt y gwaith adfer ers y tirlithriad sylweddol mewn tomen lo segur a ddigwyddodd yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024.

Welsh Government

Wystrys brodorol Sir Benfro.

Pontŵn Iard Gychod Rudder yn Aberdaugleddau yw'r safle ar gyfer gwesty wystrys brodorol - sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad yn nifer yr wystrys brodorol.

Welsh Government

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni ansawdd dŵr yn y dyfodol

Mae £16m ychwanegol wedi'i gyhoeddi i fynd i'r afael â materion sy'n bygwth ansawdd dŵr Cymru.

WAG Sero repair cafe carmarthen 4362-2

Cymru'n arbed £1m drwy drwsio nid gwario

Mae caffis trwsio sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn helpu pobl, natur a'n hinsawdd drwy drwsio dros 21,000 o eitemau am ddim, gan arbed arian a lleihau gwastraff. Mae wedi cyrraedd carreg filltir ryfeddol gan arbed dros £1m i bobl mewn gwaith trwsio am ddim.