Newyddion
Canfuwyd 120 eitem, yn dangos tudalen 5 o 10
Hwb i amgylchedd morol Cymru gan gynllun arloesol i ailgylchu offer pysgota
Mae mwy na 15 tunnell o offer pysgota diwedd oes wedi'u hailgylchu ers 2023 drwy fenter ailgylchu arloesol ledled Cymru, gan helpu i ddiogelu amgylcheddau morol a rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu.
Y Dirprwy Brif Weinidog yn canmol y gwaith diffodd tân 'eithriadol' yn ystod y tymor tanau gwyllt
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi canmol sgiliau eithriadol diffoddwyr tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn cynnydd digynsail mewn tanau gwyllt ledled Cymru.
Prosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus yn cael £107m - mwy nag erioed
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES) wedi neilltuo £107.7 miliwn o grantiau, mwy nag erioed, i helpu sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru i gynnal prosiectau arbed ynni.
Mesurau rheoli’r tafod glas yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r mesurau a fydd ar waith ar gyfer cyfnod trosglwyddo'r Tafod Glas.
Amddiffynfeydd arfordirol newydd gwerth £26m yn amddiffyn miloedd o gartrefi ym Mhrestatyn
Bydd miloedd o drigolion Prestatyn yn elwa ar amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol diolch i brosiect amddiffyn arfordirol mawr gwerth £26 miliwn sydd wedi'i gwblhau naw mis yn gynt na'r disgwyl.
Tyfu: Deg safle newydd yn ymuno â Choedwig Genedlaethol Cymru
Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o fwy o fynediad at fyd natur wrth i ddeg safle coetir newydd ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.
Llywodraeth Cymru yn ymestyn cyllid ar gyfer adeiladu capasiti arfordirol
• Estynnwyd y Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd i gefnogi pysgodfeydd a chymunedau arfordirol gyda thwf cynaliadwy ac arallgyfeirio
• Mae un ar ddeg o brosiectau llwyddiannus eisoes yn cryfhau cysylltiadau rhwng pobl a natur ledled Cymru
• Bydd cyllid yn datblygu sgiliau a rhwydweithiau lleol ar gyfer adferiad natur mewn ardaloedd arfordirol
‘Rhan hanfodol’ gan ddeddfwriaeth newydd wrth ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru
Mae cyfraith newydd i ddiogelu bioamrywiaeth a gwella lles pobl Cymru wedi'i chyflwyno heddiw.
Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â fferm cig eidion arobryn ac ecogyfeillgar
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi ymweld â fferm arobryn yn Ynys Môn i weld sut y mae arferion ffermio cynaliadwy yn batrwm ar gyfer cynhyrchu bwyd mewn ffordd ecogyfeillgar yng Nghymru.
Y gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym y penwythnos hwn
O ddydd Sul, 1 Mehefin, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU gyfan i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu.
Dull partneriaeth yn sbarduno cynnydd ar raglen dileu TB Cymru
Mae Cymru'n gwneud cynnydd yn ei Rhaglen Dileu TB drwy ddull partneriaeth cryfach sy'n gwneud newidiadau cadarnhaol ym mholisi'r llywodraeth i ffermwyr wrth fynd i'r afael â'r clefyd.
Grŵp newydd i gryfhau llais y dinesydd yn nemocratiaeth Cymru
Mae grŵp o arbenigwyr blaenllaw ym meysydd democratiaeth, ymgysylltu â'r gymuned a datblygu polisi wedi cael ei sefydlu i ddod o hyd i ddulliau newydd o annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn democratiaeth.