Newyddion

Canfuwyd 140 eitem, yn dangos tudalen 4 o 12

mhorwood Food Sense Wales 181125 23509-2

Dathlu Partneriaethau Bwyd Lleol yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i ddarparu £2 filiwn o gyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol yn 2025-26. 

Welsh Government

98% o ddyfroedd ymdrochi Cymru yn bodloni safonau amgylcheddol llym

Roedd naw deg wyth y cant o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru yn bodloni safonau cydymffurfio llym eleni – gyda'r mwyafrif llethol yn sicrhau statws 'ardderchog'.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn canmol ‘buddugoliaeth ddwbl i Gymru’

Mae’r newyddion am fuddsoddiad enfawr mewn adweithyddion niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gogledd Cymru yn “fuddugoliaeth ddwbl i Gymru” yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan.

AI Housing CYM (Facebook Post)

Cyflwyno mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i'w hamddiffyn rhag ffliw'r adar

Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Iau 13 Tachwedd yn sgil cyflwyno mesurau i leihau'r risg o ledaenu ffliw adar

Welsh Government

COP30: ‘Moment dyngedfennol ar gyfer canlyniadau yn y byd go iawn’ – Y Dirprwy Brif Weinidog

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud bod COP30 yn foment dyngedfennol ar gyfer cydweithredu rhyngwladol a chanlyniadau yn y byd go iawn yn ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd.

Welsh Government

Merthyr Tudful fydd cartref Pencadlys newydd yr Awdurdod Tomenni nas Defnyddir, gan greu 60 o swyddi

Bydd pencadlys Awdurdod Tomenni nas Defnyddir newydd Cymru yn cael ei sefydlu ar hen domen lo wedi'i hadfer ym Merthyr Tudful, gan ddarparu tua 60 o swyddi newydd. 

Welsh Government

Llywodraeth Cymru i Gyhoeddi Parth dan Gyfyngiadau'r Tafod Glas dros Gymru Gyfan (BTV3) o 10 Tachwedd

Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi y bydd Cymru Gyfan yn Barth dan Gyfyngiadau (RZ) oherwydd  seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) o 10 Tachwedd 2025

Welsh Government

Cyfyngiadau symud ar wartheg yng Nghymru i reoli TB yn well

Bydd teuluoedd ffermio Cymru yn elwa wrth i fesurau cryfach i reoli TB ddod i rym o Ionawr 2026 a fydd yn gosod cyfyngiadau symud am oes ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf. 

Welsh Government

Cyfle 'unwaith mewn cenhedlaeth' i ddiwygio'r sector dŵr yng Nghymru

Heddiw (dydd Mawrth, 21 Hydref) mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi amlinellu cynlluniau i drawsnewid y ffordd y mae dŵr yn cael ei reoli, ei reoleiddio a'i ddarparu yng Nghymru. 

Welsh Government

Adfer mawndir ym Mannau Brycheiniog

Mae prosiect mawr ar gyfer mawndiroedd yn y Mynydd Du yn arbed degau o filoedd o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 169 o geir oddi ar y ffordd – diolch i £1.2m o gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Welsh Government

Miloedd o ffermydd Cymru yn derbyn blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol.

Heddiw (dydd Mawrth, 14 Hydref) mae mwy na £158m wedi'i dalu i fusnesau fferm yng Nghymru drwy flaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2025. 

Welsh Government

Cynllun gwerth £66m yn diogelu cannoedd o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd

Mae'r prosiect mwyaf erioed o fewn Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru wedi’i agor yn swyddogol heddiw (dydd Iau 9 Hydref).