Newyddion
Canfuwyd 22 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2
Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru
Heddiw, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru.
Gwreiddiau cryf yn rhoi rhagor o dwf i'r Goedwig Genedlaethol
Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi bod 18 safle arall wedi cael statws Coedwig Genedlaethol Cymru drwy rownd ddiweddaraf y Cynllun Statws.
Arweinwyr Brodorol o'r Amazon ym Mheriw yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i symud at ynni adnewyddadwy
Daeth aelodau o genedl yn nyffryn Amazon Periw i Gymru yr wythnos hon i drafod gwaith hanfodol y Wampís i amddiffyn coedwig law yr Amazon a sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu i'w cefnogi i symud at ynni adnewyddadwy.
Mae sioe fodurau cerbydau trydan wedi dod i Gaerdydd fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, yn caniatáu i ymwelwyr weld a gyrru'r cerbydau trydan diweddaraf sydd ar gael i'w prynu.
Dirprwy Brif Weinidog yn lansio Wythnos Hinsawdd fwyaf Cymru hyd yma
Sut y gall Cymru addasu i hinsawdd sy'n newid?
£14 miliwn i ffermwyr ar gyfer rhagor o gynlluniau Cyfnod Paratoi'r SFS
Heddiw [dydd Llun 4 Tachwedd], cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod y ffenest ymgeisio am gynlluniau ychwanegol cyfnod paratoi'r SFS wedi agor.
Y prosiect gwerth £580,000 sydd yn adfer ac yn ail-igam-ogamu afon yng Nghaerdydd sydd wedi'i difrodi
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi ymweld â phrosiect gwerth £580,000 sy'n ceisio ailgysylltu nant yng Nghaerdydd â'i sianel a'i gorlifdir hanesyddol, ac annog ailgyflwyno eogiaid, llyswennod a brithyll.
Cynaeafu manteision gwella bioamrywiaeth yn lleol.
Wrth i gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd gyfarfod yn Cali, Columbia ar gyfer COP16 Bioamrywiaeth, cafodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, gyfle yn ddiweddar i siarad â disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron i weld pa gamau y maent yn eu cymryd i ddiogelu natur a pham.
Cymru a'r Iseldiroedd yn nodi 80 mlynedd ers i 's-Hertogenbosch gael ei rhyddhau
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, a'r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, wedi ymweld â'r ddinas ar gyfer y dathliadau i goffáu'r ffaith iddi gael ei rhyddhau rhag yr Almaenwyr gan 53ain Adran Troedfilwyr Cymru ym 1944.
Llywodraethau'n lansio Comisiwn Dŵr Annibynnol yn yr adolygiad mwyaf o'r sector ers preifateiddio
- Mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cyflwyno deddfwriaeth bwysig gyda phwerau newydd i ddwyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn swyddogion gweithredol dŵr a gwaharddiad ar daliadau bonws.
- Y cam nesaf wrth ddiwygio y diwydiant dŵr yw lansio Comisiwn Annibynnol pellgyrhaeddol i gryfhau rheoleiddio, hybu buddsoddiad a llywio diwygio pellach ar y sector dŵr.
- Penodwyd cyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr Syr Jon Cunliffe i gadeirio'r Comisiwn gan ganolbwyntio ar gyflymu'r gwaith o ddarparu seilwaith i lanhau afonydd, llynnoedd a moroedd Prydain.
Y Dirprwy Brif Weinidog yn rhannu sut y gall Cymru fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd gyda'i gilydd
Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd fioamrywiaeth COP16 Cali yr wythnos hon, a fis cyn iddynt ddod at ei gilydd yn Baku ar gyfer COP 29, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddarparu Cymru wedi'i haddasu ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.
Miloedd o ffermydd Cymru yn derbyn blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Heddiw [14 Hydref] mae £157.8m wedi'i dalu i dros 15,500 o fusnesau fferm yng Nghymru wrth wneud blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024.