Newyddion

Canfuwyd 97 eitem, yn dangos tudalen 5 o 9

Amffitheatr Caerllion - Caerleon Amphitheatre

Grant o £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i drawsnewid Caerllion Rufeinig

Mae prosiect ‘partneriaeth’ newydd i archwilio cyfleoedd posibl yn un o safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf ac a gadwyd orau yn Ewrop wedi sicrhau £250,000 o gyllid grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

38219-caerphilly-castle-caerphilly

Gweddnewidiad canoloesol! Ailagor Neuadd Fawr Castell Caerffili

Ar ôl dwy flynedd o waith cadwraeth ac adnewyddu helaeth, mae Castell Caerffili - y castell mwyaf yng Nghymru - yn ailagor i ymwelwyr y penwythnos hwn, gan ddod â'r Neuadd Fawr, ward fewnol y castell yn ôl yn fyw a dadorchuddio arddangosfeydd digidol o'r radd flaenaf.

Welsh Government

Cymuned yn dathlu buddsoddiad celfyddydol sylweddol i Gymru

Ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â’r actor o Hollywood Rhys Ifans a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r Gogledd y penwythnos diwethaf i ddathlu ailddatblygu Theatr Clwyd, theatr gynhyrchu fwyaf Cymru.

Welsh Government

Cyfarthfa yn dathlu 200 mlynedd gyda hwb o £4.5miliwn

Wrth i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, mae rheswm arall i ddathlu - bydd Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn cael £4.5miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys i helpu i sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd lawer mwy i ddod.

Rosheen and Eleeza Khan

Cymorth creadigol ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cymru yn Ewros y Menywod

Wrth i fenywod Cymru baratoi i chwarae yn y Swistir y penwythnos hwn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ym mhencampwriaeth Ewro 2025, mae llawer o brosiectau yn digwydd ledled y wlad a thu hwnt i ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn.

Welsh Government

Cyllid sgiliau i fynd â phobl ifanc greadigol i'r lefel nesaf

Mae'r bobl ifanc gyntaf i raddio o brosiect peilot i wella mynediad llawr gwlad i'r sectorau gemau ac animeiddio wedi sicrhau lleoedd i'w chwennych ar raddau datblygu gemau ynghyd â gwaith yn y diwydiant.

Georgia Price at AerFin 2-2

Prentis awyrenegol arloesol yn chwifio'r faner dros fenywod mewn peirianneg

Mae prentis ifanc o Lantrisant yn chwalu ffiniau yn y diwydiant awyrofod wrth i Gymru ddathlu Diwrnod Menywod mewn Peirianneg.

Welsh Government

Canolfan ymwelwyr Ystrad Fflur yn ailagor diolch i gymorth lleol

Mae canolfan ymwelwyr safle hanesyddol Ystrad Fflur wedi ailagor diolch i gymorth gan ymddiriedolaeth leol.

Welsh Government

Cronfa newydd yn rhoi hwb i ddiwydiant gemau Cymru

Mae chwe chwmni datblygu gemau o Gymru ar fin cael hwb ariannol o £850k gan Lywodraeth Cymru, i'w helpu i fynd i lefel nesaf eu prosiectau.

Powis Castle and Garden, Welshpool ©National Trust Images Andrew Butler-2

Parod at y Dyfodol: Trawsnewid llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau lleol Cymru

Bydd cymunedau lleol ledled Cymru yn elwa o gyfleusterau diwylliannol a gwasanaethau llyfrgelloedd gwell a mwy hygyrch diolch i oddeutu £1.8m o gyllid.

Welsh Government

Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant i ganolbwyntio ar gyfleoedd i bawb

Mae Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant wedi lansio heddiw [dydd Mawrth 20] gyda ffocws ar gyfleoedd i bawb, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir.

Connah's Quay Tigers-2

Cefnogi clybiau pêl-droed Cymru i gyrraedd nodau iechyd meddwl

Bydd pob clwb pêl-droed yng Nghymru yn gallu cael mynediad at un o oddeutu 1,000 o leoedd hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel rhan o ymgyrch i gefnogi clybiau yn well fel eu bod nhw’n gallu cefnogi eu timau, eu hyfforddwyr, eu chwaraewyr a'u cymuned ehangach.