Newyddion
Canfuwyd 227 eitem, yn dangos tudalen 19 o 19
Hwb o £185miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gan Brosiect HELIX
Mae prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE wedi rhoi hwb sylweddol i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan ei helpu i ddatblygu cannoedd o gynhyrchion newydd a chreu swyddi newydd.
Arddangos 200 a mwy o fwydydd a diodydd newydd o Gymru wrth i ddigwyddiad mawr ailgychwyn
O datws carbon niwtral cyntaf y DU a phwdinau sydd wedi’u gwneud o blanhigion i ddiodydd botanig di-alcohol, mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd busnesau o Gymru yn arddangos mwy na 200 o fwydydd a diodydd newydd gwahanol yn BlasCymru/TasteWales, sy'n ailgychwyn heddiw.
Dweud eich dweud ar newidiadau arfaethedig i symudiadau da byw
Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am farn ar gynlluniau i newid sut y caiff da byw eu hadnabod, eu cofrestru a sut y dylid adrodd ar eu symudiadau.
Cymru i arddangos ei bwyd a diod ardderchog i’r byd
Mae llai na phythefnos i fynd tan fod digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru / TasteWales, yn dychwelyd.
Miloedd o ffermydd Cymru i dderbyn cymorth talu'n gynnar
Bydd dros 15,600 o fusnesau fferm ledled Cymru yn derbyn cyfran o dros £159.6m yfory mewn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ymlaen llaw, yn ôl cyhoeddiad gan Lesley Griffiths y Gweinidog Materion Gwledig.
Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn caniatáu i Ogledd Cymru wireddu ei huchelgais economaidd – Lesley Griffiths
Bydd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20m ym Mrychdyn yn codi cynhyrchiant yn y rhanbarth ac ynghyd â buddsoddiad Bargen Twf Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn seilwaith, yn caniatáu i'r rhanbarth gyflawni ei uchelgais economaidd, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw.
Ailddatblygu Amgueddfa Llandudno yn hwb i’r dref ac i ymwelwyr – Lesley Griffiths
Ar ôl i Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, ymweld ag Amgueddfa Llandudno sydd newydd ailagor dywedodd y bydd yn hwb pellach i'r dref
Y Gweinidog Materion Gwledig yn nodi amserlen ar gyfer cymorth i ffermydd yn y dyfodol
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi amlinellu'r camau nesaf i gyflwyno system newydd o gymorth i ffermydd a fydd yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn Statws Dynodiad Daearyddol y DU
Cig Oen Mynyddoedd Cambria yw'r ail gynnyrch Cymreig newydd i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU (GI y DU), yn dilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a enillodd y wobr fis diwethaf.
Cyllid sylweddol ar gael wrth i gynlluniau amaethyddol allweddol gael eu hestyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu bod mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru, sy'n rhan allweddol o fanteisio i’r eithaf ar rym amddiffynnol natur drwy ffermio.
Rheolau cryfach i ddiogelu lles Cŵn a Chathod Bach yn dod i rym
Mae rheolau newydd sy’n amddiffyn cŵn a chathod bach ac sy’n rhoi gwarant i’r prynwr bod yr anifeiliaid wedi’u bridio ar y safle y maen nhw’n cael eu gwerthu ynddo, yn dod i rym heddiw (Gwener, 10 Medi).